Mae'n gas gen i'r term Hoyw am gyfunrywiaeth
Roedd Alun Mabon yn ei ddydd
Yn fachgen cryf a hoyw
Prin ei fod o'n gwrywgydiwr!
Ta Waeth! Ydy o'n iawn fod trafodaeth wedi ei gloi ar y Maes gan nad yw'r cymedrolwr yn hoff o farn y sawl sy'n anghytuno a hi?
Yr wyf yn anghytuno a barn y rhai nad ydynt yn cytuno a fy marn grefyddol ac yn fodlon dadlau yn groch yn eu herbyn. Ond yr wyf yn parchu eu hawl i fynegi eu barn.
Bu crefyddwyr, ie crefyddwyr, yn fodlon marw am yr hawl i ddatgan barn a chredu'r hyn nad oedd yn dderbyniol i'r awdurdodau. Bu'r Sant John Roberts, Pabydd, marw am yr hawl i fynegi ei farn Babyddol mewn gwlad Brotestannaidd. Cafodd John Penri ei grogi, ei diberfeddu a'i chwarteru er mwyn mynnu hawl i fynegi barn a oedd yn anghydffurfiol a barn yr awdurdodau.
Aberth y bobl yma, a