Acan gogladd Meirionnydd 'de. Traws a Stiniog. Efo amball air dwi di pigo fyny o bob man dwi 'di byw.
Yn Susnag dwi'n siarad efo acan Gymraeg Gog, sydd, i ni Gogs, yn swnio'n hollol Gymraeg ond sydd, i Saeson a rhai Cardis a Hwntws yn cario lilt o Lannau Merswy - sy'n cryfhau y mwya gogladd-ddwyrain da chi'n mynd. Mae'n gneud sens, achos be ydi acen glannau Merswy ond acen gogledd Cymru yn cwrdd ag acen Swydd Gaerhirfryn?
mae fy acan yn Susnag yn gallu newid ryw chydig fodd bynnag. Dibynnu pwy dwi'n siarad efo. Os dwi'n trafod rhywbeth efo bobol dwi ddim yn arfar siarad efo mae fy acan yn fwy Cymreig ond os dwi wedi ymlacio ac yn siarad (neu rantio!) efo ffrindiau Susnag eu iaith dwi'n llawar mwy free-flowing a dwi'n gallu sylwi ar y lilt Glannau Merswy yn fy nhruth.
Mi ges i foi o Port Talbot yn gofyn os mai o Lerpwl oeddwn i unwaith - ond roedd hynny'n ymateb eithafol gan rywun oedd jesd heb gyfarwyddo ag acenion i'r gogladd o Ferthyr - achos dwi DDIM yn swnio fel sgowsar!
Ond wedi deud hynny, mae gennai lilt Glannau Merswy cryfach na rhai, efallai, oherwydd imi dreulio blwyddyn yn byw efo sgowsars. Y cyfnod o siarad Susnag mwya intensif yn fy mywyd, felly mae'n naturiol mod i wedi pigo fyny'r acen.
edefyn difyr iawn!
(ond cyfraniad diflas falla!)