pogon_szczecin a ddywedodd:
Mae hyn i gyd jest yn mynd nol i'r hen ddadleuon ynglyn a chyfalafiaeth/sosialaeth .........
Os nad wyt ti'n gweld bod pobl tlawd yn well off yn yr UDA na phobl gyffredin o dan Saddam neu o dan y Taleban, i fod yn gwbl onest, ti ddim yn gweld lot ...................
Os yw bywyd mor annifyr i dlodion yn yr UDA paham y mae sut gymaint o bobl ishe byw na............ ac yn y blaen.
Ac wyt ti o ddifri am gondemnio yr UDA am ymyrryd yng Nghorea. A fyddai pobl De Corea yn well off tasen nhw'n byw yn y gogledd ..... Hyd yn oed pobl o gefndir Cymreig yn gallu gweld bod y De yn weddol gyfoethog a'r Gogledd ddim ............
Mae America ac ewrop yn dympo eu gor-gynnyrch (boed yn siwgwr neu reis neu cynnyrch eraill) ar wledydd y trydydd byd sydd yn tanseilio'r economi lleol yn llwyr. Mae hyn yn wir am Korea (fel dangosodd y ffarmwr a laddodd ei hunan) a Guyana a Botswana a Papua ayb ayb Economeg felly: Hwn yn dda i 5% o boblogaeth y byd ond gwael i 95% = ddim yn gyfartal = ddim yn dda! (gwers bach i ti ar foesoldeb fan'na rwle).
pogon_szczecin a ddywedodd:
Byddaf yn dy gynghori i ..............
wyt ti'n nabod fi? na. wyt ti'n gwbod unrhywbeth amdana i? na, a mi ddangosa i i ti pa mor wallus wyt ti:
pogon_szczecin a ddywedodd:
1 Paid a chymryd sylw o John Pilger a phobl sydd yn debyg iddo am gyfnod. Maen nhw wedi cael dylanwad digon ddrwg arnat yn barod ......
Sail cynta fi'n gwitho arno yw dysgeidiaeth Crist. Os mai dyna yw drwg, wel fi moyn bod mor ddrwg a phosib. Ma bywyd Gandhi, Mandela, Biko, Oscar Romero ac eraill yn ddylanwad - 'call me yn evil slut!'
pogon_szczecin a ddywedodd:
2 Pryna rhyw gylchgawn call fel 'yr Economist' sy'n disgrifio'r byd real ......
Falle fod y byd yn troi o amgylch arian i ti pogon bach, ond dyw hyn ddim yn wir i bawb - finne yn eu plith.
pogon_szczecin a ddywedodd:
3 Astudia economeg er mwyn deall rhywfaint am farchnadoedd rhydd a pham y maent o les i BAWB ........
Dyw e ddim yn cymryd athrylith i wybod fod rhoi 95% o gyfoeth y byd i 5% o'r boblogaeth ddim yn beth da.
pogon_szczecin a ddywedodd:
4 Ymweld a rhywle fel Wcren neu Belarws am nad ynt wedi gwella lot ers comiwynyddiaeth i weld beth ydi'r aternatif i gyfalafiaeth ..............
Wedi bod ym Mhwyl, ymweld a Hwngari, China (teulu yn byw yno) ac wedi byw yn beth oedd y wlad dlotaf yn y byd ar y pryd, Guyana, yng nghanol tlodi go iawn. Paid ti gweud wrtha mod i'n siarad o foethusrwydd heb brofiad - ma gyda fi'n siar o brofiad diolch yn fawr ac odd e'n brofiad uffenol o drist. Fi am fynd i Sowetto cyn hir fyd - gobitho.
pogon_szczecin a ddywedodd:
5 Cwrdd a phobl sy ddim yn Gymry Cymraeg yn enwedig pobl sy'n rhedeg busnesau eu hunain er mwyn cael rhyw syniad am sut y mae'r byd yn gweithio ...........
Be, fel teulu Americanaidd yn Ohio (ma'r teulu ochor arall yn perthyn i'r Rockefeller's
)? Neu'r teulu yn Aotearoa? Neu ffrindiau o Singapore, De Affrica, Fryslan, Almaen, Ffrainc, China, Somalia, Alban, Iwerddon, Watford, Liskeard, ... ... ... ... ...
pogon_szczecin a ddywedodd:
Dwi'n gwastraffu gormod o'm amser ar y negesfwrdd hon ............
Na, cadw fynd, mae dy negeseuon ond yn cryfhau ein dadleuon