Caerloyw

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caerloyw

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 02 Meh 2006 11:06 am

Wedi cael diwrnod digon braf dros y Sulgwyn yng Nghaerloyw. Amgueddfa Gamlesi yng nghanol yr hen ddociau, cip ar yr gadeirlan, a chinio yn Nhafarn y Ffynnon, sy'n enwog, yn ôl yr hanes, am i'r Brenin Gwilym o Oren farchog ei geffyl i ganol cyfarfod o'i wrthwynebwyr yn y darfarn.

Oes yna rywrai eraill yn ymserchu yn nhrefi'r ffin?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan bartiddu » Gwe 02 Meh 2006 11:45 am

Wel dwi di bod yn Bourton on the Water ychydig o weithiau, ond ti'n dechre mynd mewn i gwlad y Cotswolds wedyn... Hyfryd! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 02 Meh 2006 11:52 am

"The Venice of the Cotswolds": gwych! Wyt ti 'di mentro i Lower Slaughter gerllaw?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan bartiddu » Gwe 02 Meh 2006 12:28 pm

Wedi bod trwyddo mae'n siwr, hales tipyn o amser ar gwrs yn Stroud rhai blynyddoedd nol a mynd am ambell drip oamgylch yr ardaloedd yn y car, oni eitha gyfarwydd efo Stonehouse a Standish ar y pryd 'fyd.. Stroud, the home of the mini roundabout! :)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Dili Minllyn » Iau 19 Hyd 2006 8:43 am

Wedi bod yn Tetbury wythnos 'ma. Lle swynol iawn ychydig ymhellach i'r dwyrain, yn tai o gerrig melyn nodweddiadol Bryniau Cotswold. Mae neuadd y farchnad yn sefyll ar goesau cerrig, fel un Llanidloes, ac mae eglwys hynod fawreddog i bentref mor ddistadl (gweler y ddolen uchod). Hyfryd iawn. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Llun 04 Meh 2007 10:18 am

Wedi bod yn ôl yng Nghaerloyw ddydd Llun Gŵyl y Banc, ac wedi dringo’r 269 o risiau i ben tŵr yr Eglwys Gadeiriol. Hollol frawychus, ond golygfa wych. Mwy brawychus – a byddarol – oedd sefyll wrth y gloch fawr pan drawodd cloc yr eglwys ddau o’r gloch. :ofn:

Mae Amgueddfa Milwyr Sir Gaerloyw hefyd yn dda, gyda llawer o gofnodion diddorol am brofiadau erchyll dynion cyffredin yn rhyfeloedd di-bwrpas yr Ymerodraeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai