Ble Wyt Ti Rhwng? gan Hefin Wyn

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gorwel Roberts » Llun 12 Meh 2006 2:47 pm

Yndi, mae'n drist bod bandiau'n meddwl fel yna ond efallai fod hyn yn arwydd o effaith a dylanwad negyddol neges Thatcheriaeth (pa bynnag blaid sy'n ei wthio) ar ein ffordd o fyw a'n diwylliant.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Meiji Tomimoto » Llun 12 Meh 2006 3:34 pm

I fynd nol at y gig rhyw ddydd un dydd, ia! dyma lle'r ath hi'n rong!
Nath y Gymdeithas roi "Rider" i'r bandia! - mynydd anferth o ganiau 4X os dwi'n cofio'n iawn, a gath pawb flas ar hynnu. Oedd y "Riders" mewn gigs yn Lloegr yn fwy fyth, a ffrwythau a brechdanau hefyd! Natho ni chwarae Q club Byrmingham, a doedd neb arall ar y lein-yp yn yfad! - wele yfad "Rider" pawb arall hefyd. :wps:
A dyna fu. Ie, Thatcher, a cwrw 'dir bai.
Tawn i'n smecs Alec! Y Meicroffilm!
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Lals » Llun 12 Meh 2006 8:10 pm

Mae adolygiad swmpus o'r llyfr yn Barn y mis hwn. Ifor ap Glyn yw'r awdur. Gyda llaw, diolch i bwy bynnag newidiodd deitl yr edefyn. Dw i'n sylweddoli ei fod wedi creu problemau.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Gorwel Roberts » Llun 12 Meh 2006 8:20 pm

Pwynt teg gan Gwyrosydd ynglyn â chynnal y sin danddaearol. Mae'n siwr bod hyn yn wir heddiw a hyd byth. Yn y cyfnod dan sylw y sin danddaearol oedd y sin oedd i'w gweld ar Fideo 9 (blaw am ambell eithriad) a dyna oedd yn gwneud y peth yn ddeniadol ac yn denu lot o fands ifanc newydd i ganu yn Gymraeg. Mae'n rhaid cael sin danddaearol cos yn y lle hwnnw mae pethau newydd a diddorol fwya tebygol o ddigwydd. Ond wrth gwrs fedrwn ni ddim creu sindanddaearol drwy siarad amdani a gobeithio wneith hi ddigwydd. Mae angen artistiaid tanddaearol talentog sydd ddim yn becso dam ac sydd ddim yn meindio aros yn danddaearol.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan khmer hun » Maw 13 Meh 2006 8:57 am

Lals a ddywedodd:Gyda llaw, diolch i bwy bynnag newidiodd deitl yr edefyn.


Fuss-pot alert: mae fe'n dal yn rong, sori. 'Ble Wyt Ti Rhwng?' yw teitl y llyfr!
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 13 Meh 2006 9:06 am

Gawn ni deitl call i'r edefyn plis?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 13 Meh 2006 11:20 am

khmer hun a ddywedodd:Fuss-pot alert: mae fe'n dal yn rong, sori. 'Ble Wyt Ti Rhwng?' yw teitl y llyfr!


Gorwel Roberts a ddywedodd:Gawn ni deitl call i'r edefyn plis?


Wedi newid y teitl - pawb yn hapus?

I fynd nol at y pwnc - Dwi heb gael cyfle i ddarllen y gyfrol, dim ond wedi fflicio trwyddi hyd yn hyn. Yr argraff gyntaf ges oedd ei fod braidd yn arwynebol a bod dim digon o ddadansoddi, a gormod o dyfyniadau hir. O rhan ffynhonellau, nes i sylwi ar y diffyg llwyr o unrhyw un o gyhoeddiau'r wasg danddaerol, sef ffansins y cyfnod - Ble mae Llymych!, Macher, Egni, Psycho a'r holl ffansins celloedd y Gymdeithas? Diw dyfynnu darnnau allan o Sothach! ar ben ei hyn ddim yn ddigon er mwyn cael syniad o beth oedd wirionedddol yn digwydd yn y sin danddaerol.

Serch hynny, fydd rhaid i fi eistedd lawr a'i darllen hi o glawr i glawr cyn allai ddechrau beirniadu yn ormodol. Na'i gau fy mhen am y tro.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 13 Meh 2006 2:05 pm

Mae cyfrol sy'n cyfro 20 mlynedd bownd o fod yn arwynebol i ryw raddau i fod yn deg i'r awdur.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan khmer hun » Maw 13 Meh 2006 2:28 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Yr argraff gyntaf ges oedd ei fod braidd yn arwynebol a bod dim digon o ddadansoddi, a gormod o dyfyniadau hir.


Hollol i'r gwrthwyneb o'n i'n teimlo. Rhwydd a difyr i'w ddarllen, ddim yn arwynebol o gwbl. Os rhywbeth, mae'n dadansoddi ormod, ond hynny'n arwydd o ddyn sy' wedi mopio ar yr holl wybodaeth jiwsi o'dd o'i flaen a dyw'r llith byth yn sych.

Fi'n siwr ei fod e'n trafod Llmych yn eitha' helaeth. Ond amau'n fawr a gafodd e afael ar ffansin Y Crafwyr...
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 14 Meh 2006 8:06 pm

Os ydi'r llyfr yn ysgogi rhai fel Gwyrosydd i roi eu pigau i mewn i'r reu, yna mae wedi gwneud ei waith
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron