'BREAKING THE SILENCE' - Rhaglen John Pilger ar ITV

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan pogon_szczec » Sul 28 Medi 2003 10:06 am

Rhagor o gwestiynau ............

9 Pe bai De Gorea yn gor-cynhyrchu reis a fyddent yn 'dwmpio' eu gor-cynhyrch yn yr UDA, gan dan-seilio amaethyddiaeth yr UDA?

Cwestiynau ynglyn a Irac ........

10 A wyt ti'n derbyn (yn ol tystiolaeth dy erthyglau) bod nwy mwstard oedd yr arf cemegol a ddefnyddwyd gan Saddam yn erbyn Iran a'r Curds, bod nwy mwstard yn arf a ddefnyddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bod digon o allu gan wyddonwyr Saddam i gynhyrchu'r arf hwn, ac nid oedd rhaid i Saddam ofyn i'r gorllewin am gymorth i'w cynhyrchu, a nid oes bai ar Brydain nac America am y ffaith ei fod wedi'i ddefnyddio?

11 A wyt ti'n derbyn bod embargo arfau ar Irac wedi bod mewn bodolaeth am gyfnod hir, ac os yw cwmniau Prydeinig wedi gwerthu arfau iddo y mae bai arnyn nhw nid llywodraeth Prydain?

12 Mae America wedi ymosod Irac oherwydd olew. Felly, fyddi di'n fodlon gweld meysydd olew mwyaf y byd dan reolaeth neill ai Saddam neu (yn gynharach) gwladwriaeth Islamaidd Iran. Wyt ti'n gallu dychmygu'r canlyniadau economaidd a gwleidyddol nid i America yn unig ond i'r byd i gyd gan gynnwys Cymru?

13 Roedd y byd Arabaidd yn erbyn disodli Saddam. Gwnaeth lywodraethau'r Gwlff wrthwynebu yn gyhoeddus, a chefnogi yn breifat. Buasai ymosod ar Irac yn amhosib heb gymorth Saudi Arabia, Bahrain, Jordan, a Chiweit. A wyt ti'n derbyn bod gwledydd y Gwlff yn ofni Saddam ac Iran yn fwy na'r Satan Mawr yr UDA wrth reswm?

14 A wyt yn sylweddoli bod bodolaeth miloedd o filwyr Americanaidd dros deng mlynedd wedi peri tensiynau ym mhrenhiniaeth Saudi Arabia, ac roedd rhaid cael gwared o Saddam cyn iddynt adael? (Dyma wir reswm y rhyfel).

15 Ac yn olaf, a wyt ti'n derbyn bod yr UDA, beth bynnag eu ffaeliau, wedi gwneud mwy o les nac o ddrwg yn y byd dros y hanner ganrif diwethaf trwy wrthsefyll Nasiaeth, Stalinyddiaeth ac Islamaeth filwrol?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan pogon_szczec » Sul 28 Medi 2003 10:46 am

Cwestiwn arall i Gardi Bach .............

16 Efallai nid yw dy fywyd yn troi mewn cylchoedd arian, ond fel Cristion, wyt ti'n cytuno efo Margaret Thatcher pan wedodd

"Prif bwynt hanes y Samaritan Da oedd y ffaith bod arian ganddo......."

:?:
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Huw T » Sul 28 Medi 2003 12:08 pm

Fin gwbod mai i Cardi mae'r cwestiynnau, ond ma rhai o nhw mor ridiculous fel bo fi hefyd ishe cal go yn ei tynnu nhwn ddarne.

1. Wrth gwrs for pobl De Corea yn well off, am fod Gog Corea yn dictatorship, ac hefyd mewn dyled am ei bod wedi bod yn ymladd yr UDA am hanner canrif.

2. Rwyn beuo ymyraeth yr UDA am y ffaith fod sefyllfa pobl Gog Corea mor wael - petai'r UDA wedi cadw allan, a gadael i'r Koreans sortio ei hunain allan yn lle ymyryd (fel y gwnaethom hefyd yn China, Vietnam, Chile, etc) yna mae'n bosib y byddai Corea gyfan yn gallu mwynjau ansawdd byw uchel.

3. Na

4. Na. Cwestiwn plentynnaidd tu hwnt.

5. Oeddwn, roeddwn yn gwybod am protectionism, a'i effeithiau. Does neb yma sydd eisiau gweld diwedd ar fasnachu rhwng gwledyd. Neud y masnach hynny yn decach ry ni ishe neud.

6. Ydy mae mewnforion rhad yn dod o dramor, ond yn aml multinationals Americanaidd sy'n gyfrifol am hyn wrth adeiladu ffatrioedd newydd yn Asia i gael llafur rhad. Masnach rydd yn dinistrio bywoliaeth y gweithwyr Americanaidd, ac yn gwneud i boblogaeth Asia weithio mewn sweat shops. Gwych!

7. Wrth gwrs fod arian yn helpu (yn anffodus). Ac wrth gwrs byddai astudio economeg yn helpu. Does dim angen astudio economeg i drechu dy ddadleuon di er hynny!

8. Newn ni gymryd y cyfrifiadur chi newydd adeiladu, a rhoi pwys o reis amdano. Lyfli. A yw hi o les fod Americanwyr ar gyfaraledd yn bwyta mwy o Kj na unrhyw bobl arall, fod mwy o ddefnyddwyr cyfrifiaduron yn yr UDA nag yn unhryw wlad arall, a fod yr UDA yn cynhyrchu 25% o holl lygredd y byd?
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Huw T » Sul 28 Medi 2003 12:34 pm

9. Mae'n bosib y bydde nhw - dyma'r feddylfryd gyfalafol o guro pobl eraill.

10. Fe ddefnyddiodd Saddam nwy mwstard - cywir. Fe allai Saddam gynhyrchu nwy mwstard ei hun - yn sicr mae'n bosibl. Ti heb ddangos unrhyw dystiolaeth i brofi hyn er hynny. Nid oes bai ar Brydain ac America - mae'n ffaith i America arfogi'r Cwrdiaid i ymladd Saddam. Posib felly mai retaliatory strike oedd defnyddio nwy mwstard. America a'i bys yn y cawl unwaith eto. Hefyd Imperialaeth Prydain a Ffrainc oedd creu 'Iraq' sef gwlad artiffisial, ar ddiwedd y rhyfel byd cyntaf, gan grwpio Cwrdiaid Shiass a Shit'te gyda'i gilydd mewn un gwlad. Petai'r Gorllewin wedi cadw ei addewidion i'r Arabiaid, a'i gadael i benderfynnu ar ei dyfodol ei hunain, ni fyddai'r broblem bresennol gyda ni heddi.

11. Mae bai ar y llywodraeth am fethu atal yr arfau hyn rhag cael ei cludo i Iraq, ond mae'n wir taw'r cwmniau oedd yn gyfrifol am ei gwerthu. Yr ateb ddwedwn i yw gwladoli'r cwmniau hyn felly, a'i dodi dan reolaeth y llywodraeth.

12. Byddwn ni ddim am weld y meysydd olew yn nwylo fanatics moslemaidd, na. Ond cofia i Islam ddod yn bwer gwleidyddol yn Iran fel ymateb i ymdrech cwmniau olew Prydain a UDA i reoli Iran a chael mynediad i'w meysydd olew.

13. Ydw. Gallai dderbyn yn iawn fod pobl Palesteina a Syria yn ofni mwy o'i brodyr Arabaidd na'r wlad sydd am hanner canrif wedi bod yn arfogi a chefnogi Israel i ymladd rhyfel yn eu herbyn.

14. Bydde ni'n derbyn fod unrhyw sefydliad anemocratiadd yn mynd i ddioddef tensiynnau yn hwyr neu'n hwyrach. Hefyd, doedd dim strategol i ddisodli Saddam - fel y gwelwyd yn ystod y rhyfel, doedd dim siap ar luoedd arfog Iraq, a phetai Saddam yn ddigon twp i ymosod, byddai'n siwr o wybod y byddai'r Gorllewin yn ymateb fel y gwnaethan gyda Kuwait.

15. Rwy'n cytuno fod yr UDA wedi bod yn hanfodol wrth wrthwynebu Hitler a Staliniaeth. Fodd bynnag, yn y ddau achos, ymladd dros fuddiannau ei hunan yr oedd America - e.e yn WW2 aros allan am 3 mlynedd gan adael i Brydain waedu nes ei bod yn dlawd.
Am Islamaeth filwrol, rwy'n dal America yn bennaf gyfriol am ei fodolaeth. Beth oeddynt yn meddwl fyddai rhai pobl yn ei wneud yng nghwyneb ar anhafaleddau sy'n bodoli yn ein byd heddi.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Huw T » Sul 28 Medi 2003 12:39 pm

16. Holl bwynt stori'r Samaraid trugarog yw i'r teithwir dderbyn cymorth oddi wrth elyn yr Israeliaid, ar ol i'r barnwr a'r offeiriad - pobl uchel cymdeithas- ei anwybyddu a'i adael i farw.

Os ti am ddod ac arian i mewn i'r stori, y peth i gofio yw mor barod oedd y Samariad i roi ei arian i ffwrdd i dalu am lety a gofal i'r teithiwr. Enghraifft o fod yn hael a charedig, yn wahanol i greed Thatcher, sydd yma eto yn dangos pa mor wan yw ei grip ar realiti!!! Llosged yn uffern.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Huw T » Sul 28 Medi 2003 12:40 pm

(mae'r frawddeg ola wedi ei gyfeirio at Thatcher nid pogon.....a ddim ond yn applicable os y chin credu yn uffern :rolio: )
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan pogon_szczec » Sul 28 Medi 2003 1:16 pm

Huw T a ddywedodd:Fin gwbod mai i Cardi mae'r cwestiynnau, ond ma rhai o nhw mor ridiculous fel bo fi hefyd ishe cal go yn ei tynnu nhwn ddarne.


Bach yn gor-ddweud e fan hyn boi...........

2. Rwyn beuo ymyraeth yr UDA am y ffaith fod sefyllfa pobl Gog Corea mor wael - petai'r UDA wedi cadw allan, a gadael i'r Koreans sortio ei hunain allan yn lle ymyryd (fel y gwnaethom hefyd yn China, Vietnam, Chile, etc) yna mae'n bosib y byddai Corea gyfan yn gallu mwynjau ansawdd byw uchel.


Wel pe buasai'r Americans ddim wedi ymyrryd ni fuasai De Gorea mewn bodolaeth. Byddai Corea i gyd o dan reolaeth Stalinaidd 'yr Arweinydd Annwyl'.

Mae Corea yn ddiddorol iawn fel enghraifft o un wlad sydd wedi dod o dan ddylanwad yr UDA ac un sy ddim ........

Os oes diddordeb da ti mewn Gogledd Corea mae lot o wybodaeth ar gael ar wefan y BBC.

Rhaglen teledu gorau dwi erioed wedi gweld oedd dogfen ar Gog Gorea wedi'i wneud gan Bwyliaid.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan pogon_szczec » Sul 28 Medi 2003 1:23 pm

Huw T a ddywedodd:16. Holl bwynt stori'r Samaraid trugarog yw i'r teithwir dderbyn cymorth oddi wrth elyn yr Israeliaid, ar ol i'r barnwr a'r offeiriad - pobl uchel cymdeithas- ei anwybyddu a'i adael i farw.

Os ti am ddod ac arian i mewn i'r stori, y peth i gofio yw mor barod oedd y Samariad i roi ei arian i ffwrdd i dalu am lety a gofal i'r teithiwr. Enghraifft o fod yn hael a charedig, yn wahanol i greed Thatcher, sydd yma eto yn dangos pa mor wan yw ei grip ar realiti!!! Llosged yn uffern.


Ond y pwynt ydi bod arian ganddo i roi i ffwrdd ........

Rhaid helpu dy hun cyn i ti helpu pobl eraill ...........

A gyda llaw gwnaeth Thatcher fyd o les i Brydain ..........

Oherwydd 20 blynedd o reolaeth Toriaid mae gyda ni diweithdra isaf y gymuned Ewropiaidd. (Dwi'n meddwl).
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Huw T » Sul 28 Medi 2003 2:55 pm

A gyda llaw gwnaeth Thatcher fyd o les i Brydain ..........


Dinistrio'r diwydiannau glo a gweithgynhyrchu. Preifateiddio'r rheilfyrdd, sydd bellach yn joc i bawb, diffyg budsoddi yn yr NHS, ac adeiladu twnnel costus sydd ddim yn gwneud arian (y peth pwysicaf yn dyfe)

do. Nath hi fyd o les i Brydain.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Huw T » Sul 28 Medi 2003 2:56 pm

14/16 - bydde fin cael A am hwnna :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron