Baneri. Blydi Baneri.

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Huw T » Iau 29 Meh 2006 10:31 am

Fi'n cytuno ei fod e'n hollol gyfoglyd (sickening?!) gymaint o faneri Lloegr sydd i'w gweld o gwmpas Cymru. Mae e wir yn dangos y gradd mae ein cymdeithas ni wedi ei infiltratio gan fewnfudwyr sydd ddim yn barod i intergreiddio.

Yn aml iawn, o beth fi di gweld, mae'r rhai a baneri Saesnig yn chwifio yn bobl ifanc, sydd wedi eu geni a'u magu yng Nghymru, ond sydd yn deyrngar i Loegr. Mae hyn yn codi cwesitynnau amdano ni'r Cymry hefyd. Gwir fod bai ar y rhieni, ond mae'n amlwg fod y system addysg wedi methu a chreu cenedlaetholdeb Cymraeg o fewn y bobl hyn, a thybed hefyd faint ohonom ni Gymry, yn ein dyddiau ysgol, geisiodd ddod a'r bobl yma (aka chavs) mewn i'r cylch Cymraeg. Allai ddim siarad a chydwybod clir am hun o bell ffordd, felly peidiwch meddwl mod i'n pregethu, ond mae'n rhyebwth i ystyried dwi'n teimlo.

Mae'r sector adwerthu (retail) hefyd yn gyfrifol am wneud y sefyllfa'n waeth fi'n credu, ac ar draws Prydain, nid jyst yng Nghymru. Mae Cwpan y Byd, i raddfa fawr jyst yn gyfle i siopau'r stryd fawr i 'cashio fewn', gan ddefnyddio special offers a phwysedd cymdeithas i greu group mentality ffug - Cenedlaetholdeb Asda style! Wedi dweud hynny, fe ges i'r cyfle, pan ges i gynnig banner Lloegr am hanner pris yn WHSmiths Oxford, i gael ateb gyda'r frawddeg "Since I am neither a simpleton nor a casual racist I must decline your offer." Doedd 'Stacey' druan ddim yn gwbod ble i edrych!

Wel, dyna'r rant. I orffen ar neges bositif, bues i yn Sbar Aber ddoe, a doedd gyda nhw ddim baneri ar werth. Roedd baner Lloegr yno, ynghyd a baneri pob gwlad arall yng Nghwpan y Byd AC roedd baner Cymru yno hefyd. Yna dyma fi'n cerdded heibio i Cafe Society drws nesa, ac roedd crysau 'Cymru' wrth flaen y drws. Gwych. Siopwch yno, iddynt gael gweld fod cefnogi Cymru yn gam economaidd da.


O.N. Mae hyn yn contradicto braidd be ddwedes i yn gynharach am yr angen am ddeialog rhwn Cymry a Saeson, Ond - fe ges i ysbrydoliaeth a, beth i wneud os yw'r baneri ar geir yn eich pisho chi bant sydd yn gyfreithiol (sort of), yn hwyl, ac yn creu cur pen i berchennog y car - TIPPEX - taflwch botel o'r stwff dros y car, bydd yn edrych yn ridiciwlys (yn enwedig os yw'n gar sgleiniog boy-raceraidd), bydd angen gwario oriau yn ei lanhau (neu arian yn y car-wash) ac, heb edrych yn agos, bydd yn edrych fel cachu adar! Perffaith - I'r Gad :crechwen: (ond peidiwch prynu'r tippex yn Smiths!)
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Iau 29 Meh 2006 11:11 am

Geraint a ddywedodd:Dwi'n mynd i fod yn Newcastle dydd Sadwrn yma

Fi'n gorfod mynd i Caerfaddon dydd sadwrn am barbeciw penblwydd 21fed fy howsmet o Coleg.
Tymme bach o bwyd neis, yfed Carlsberg da hysbyseb Cwpan y Byd lloegr arno, watsho fe yn yr ardd, pawb yn cefnogi'r lads...swno fel uffern i fi. :drwg:
O leia ma tri o ni Gymry yn mynd. Dwi'n edrych arno fe fel mission yn ddwfn mewn i tir y gelyn.
Reit, am ffindo crys Portiwgal am chep cyn dydd sad...neu yr Ariannin, ma nhw wastod yn hoff o bobl yn wisgo'r glas a gwyn :D

Off fy mhwynt, ond postes i llun o'r faner San Sior lan yn Co-op Cathays yn edefyn hon cwpl o wythnose yn ol, a fi'n falch i gweud o nhw di cymrid e lawr sbel fach ar ol gymres i'r lun. A ar d'wornod y gem Lloegr n'erbyn Sweden roedd y staff i gyd di paentio'i wynebau gyda'r croes glas a melyn, ac yn wisgo cryse eu hun, fel Ceeerdiff City ayyb. Am y tro cynta i fi bod yn hapus i weld crys y Bluebirds! :winc:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Rhys » Iau 29 Meh 2006 11:55 am

peidiwch meddwl mod o blaid yr holl fflagiau lloegr ma yng Nghymru, yn enwedig gan gwmniau mawr a'r wasg, Huw a'r Fampir, triwch fod ychydig bach parchus o'r Saeson yn Lloegr

Huw:
Ar un llaw ti'n beirinaidu addysg Cymru am beidio cynhyrchu cenedlaetholwyr Cymraeg (dwi'n meddwl mai gwladgarwyr ti'n feddwl, er cenedlaetholwr ydw i gyda llaw), ond ti'n galw pobl sy'n chwifio baner Lloegr yn Lloegr 'casual racist' :?:

Fampir:
Ddim bydde ots ofnadwy gyda fi pwy mae season yn gefnogi, ond petawn i'n gwahodd criw o fobl i'n tŷ i (yng Nghymru) i wylio Cymru ar y bocs, bydde fi ddim yn disgwyl iddynt gefnogi Cymru, ond byddwn i ddim yn disgwyl iddynt fynd o'u ffordd i gefnogi'r gwrthwynebwyr.

"When in Rome......." mae'n gweithio'r ddwy ffordd!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Iau 29 Meh 2006 12:25 pm

Rhys a ddywedodd:peidiwch meddwl mod o blaid yr holl fflagiau lloegr ma yng Nghymru, yn enwedig gan gwmniau mawr a'r wasg, Huw a'r Fampir, triwch fod ychydig bach parchus o'r Saeson yn Lloegr

Huw:
Ar un llaw ti'n beirinaidu addysg Cymru am beidio cynhyrchu cenedlaetholwyr Cymraeg (dwi'n meddwl mai gwladgarwyr ti'n feddwl, er cenedlaetholwr ydw i gyda llaw), ond ti'n galw pobl sy'n chwifio baner Lloegr yn Lloegr 'casual racist' :?:

Fampir:
Ddim bydde ots ofnadwy gyda fi pwy mae season yn gefnogi, ond petawn i'n gwahodd criw o fobl i'n tŷ i (yng Nghymru) i wylio Cymru ar y bocs, bydde fi ddim yn disgwyl iddynt gefnogi Cymru, ond byddwn i ddim yn disgwyl iddynt fynd o'u ffordd i gefnogi'r gwrthwynebwyr.

"When in Rome......." mae'n gweithio'r ddwy ffordd!


Bingo
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Huw T » Iau 29 Meh 2006 12:56 pm

ond ti'n galw pobl sy'n chwifio baner Lloegr yn Lloegr 'casual racist'


Dylwn fod wedi dweud, dyna ddyfyniad gan unai Ian Hislop neu Private Eye, sai'n cofio pa un
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Llopan » Iau 29 Meh 2006 3:37 pm

Huw T a ddywedodd:
Wel, dyna'r rant. I orffen ar neges bositif, bues i yn Sbar Aber ddoe, a doedd gyda nhw ddim baneri ar werth. Roedd baner Lloegr yno, ynghyd a baneri pob gwlad arall yng Nghwpan y Byd AC roedd baner Cymru yno hefyd. Yna dyma fi'n cerdded heibio i Cafe Society drws nesa, ac roedd crysau 'Cymru' wrth flaen y drws. Gwych. Siopwch yno, iddynt gael gweld fod cefnogi Cymru yn gam economaidd da.




Os ewch chi mewn i Dorothy Perkins yn Aberystwyth, ar waelod y stâr sy'n arawin lan i Burton's ma' 'na fodel sy'n gwisgo crys sy' dweud Cymru (neu Wales...sa i'n cofio!) arno fe. A wedodd fy mrawd i fod Dunlops 'da baner Cymru arnyn nhw yn y siop 'fyd. Ond sa i 'di bod mewn i weld a oes stwff Lloegr 'na 'fyd!

Dwi nawr yn boicotio'r siopau hynny sy'n rhy Seisnig (yn fy marn i!). A falle wna i gadw'r boicot 'ma lan hyd yn oed ar ôl i Gwpan y Byd ddod i ben! Ma' angen cipio Aberystwyth nôl i'r brodorion! Aka, fi a fy nhebyg! :D
Llopan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 221
Ymunwyd: Mer 26 Hyd 2005 3:38 pm
Lleoliad: Yn y glaw!

Postiogan twpsyn » Iau 29 Meh 2006 4:14 pm

Yn hytrach na chwyno am faneri Lloegr ydych chi wedi rhoi baner Cymru ar eich car/ty/ffenest? Neu ydych chi'n rhy parchus/dosbarth canol i ddangos eich ochr? :?

Byddai gweld mor o faneri Lloegr yn rhoi neges digon clir i'r Saeson yna sydd heb yr un hangyps parchus a Chymry sy'n cwyno dan eu gwynt am faneri San Sion. Bydd yn rhoi neges glir mai Cymru yw'r wlad yma nid Lloegr. Bydd hefyd yn rhoi neges glir i'r Cymry hynny sydd yn chwifio baner Cymru. Sdim pwynt cwyno a danfon ffotos i maes-e os nad oes Draig Goch yn chwifio gennych.

Peidiwch bod mor dosabrth canol a byddwch fel y Chavs Saesneg - os yw e'n corddi chi i weld baneri San Sior yna efallai byddai gweld baneri Draig Goch yn eu corddi nhw neu'n gwneud iddynt feddwl o leifa. :rolio:
rhy dwp i mewngofnodi
twpsyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Maw 28 Chw 2006 11:40 am
Lleoliad: stafell oer

Postiogan Llopan » Iau 29 Meh 2006 4:19 pm

Wel oes! Ma' 'da ni 2 faner...un Cymru ac un Brasil! (Prynodd Mam hwnna'n arbennig ar gyfer gêm Brasil Vs Lloegr yn y Cwpan y Byd diwethaf!) :D
Llopan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 221
Ymunwyd: Mer 26 Hyd 2005 3:38 pm
Lleoliad: Yn y glaw!

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Iau 29 Meh 2006 6:54 pm

Paid a becso Rhys, sai myn i sboilo'r parti i nhw, ty fy mhet yw e yn y diwedd, a licen i joio 'fyd. :)

So fi'n disgwl i nhw peidio a myn yn nuts pan wylio'r gem, digon teg, bydde ni yn wlad nhw. Ond sai'n mynd i ymuno da'r holl sbri a hwyl ma nhw mynd i gal os di'r Sais yn ennill, eistedda fi yn gornel tawel da gan o lager a byrger 'da wen slei fach ar fy wyneb pan mae Pauleta yn sgori. :winc:

Yr Ariannin yw fy tim yn y gwpan ma, felly sai'n myn mas o'n ffordd lot fawr i gal crys nhw, a fi'n eitha lico'r rhai retro Ariannin 'fyd. Ond ie, falle bydd wisgo fe i'r barti yn cymrid y piss tyme' bach!
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 29 Meh 2006 8:52 pm

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai