Mini'r Mincs yn erbyn cyfalafiaeth

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Llun 17 Gor 2006 10:10 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:
Llongyfarchiadau i deuluoedd Mini Minx, Dili Minllyn a'r Gath Du am y ffawd sydd yn eu galluogi i dalu crocbris fel ffafr i berchenogion y siopau lleol - yn anffodus mae'r rhan fwyaf ohonom yn brin o'u braint. :crio:


Hen Rech, paid a bod mor flin!

Ddaru mi gyfyngu fy nadl i ddweud fod cig o siop gigydd yng Nghaernarfon yn well na chig Tesco. Mae'r pris hefyd yn hynod gystadleuol. Dwi'n prynu ffrwythau gan ddyn sy'n dod i'r drws efo fan - dim syndod fod hwn hefyd yn gystadleuol gan nad yw'n gorfod talu trethi neu rent.

Dim unwaith y bu i mi ddweud fod angen i ti brynu gan siop y gornel ac os byddi cystal a darllen fy ymateb i Garnet dwi'n cytuno efo llawer o'i ddadl. I gloi, fe roddodd ein dyn llefrith y gorau i alw acw ac felly Morrissons sy'n cyflenwi tŷ ni. Efo 5 o blant a dau dan ddwy oed mae'r boced wedi gweld y gwahaniaeth yn syth. 25c y peint yn hytrach na 42c os am brynu poteli chwe peint. Dyna arbediad o £1.02 mewn chwe peint, arbediad sy'n egluro pam ein bod oll yn debygol o ddefnyddio archfarchnadoedd i brynu cyfran helaeth o'n neges wythnosol.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dili Minllyn » Llun 17 Gor 2006 10:57 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Llongyfarchiadau i deuluoedd Mini Minx, Dili Minllyn a'r Gath Du am y ffawd sydd yn eu galluogi i dalu crocbris fel ffafr i berchenogion y siopau lleol - yn anffodus mae'r rhan fwyaf ohonom yn brin o'u braint. :crio:


Mi fydda i'n prynu ffrwythau a llysiau o siop fach leol, drws nesaf i Tesco'r Rhath. Maen nhw'n llawer rhatach na'r rhai eu cymydog mawr, yn bennaf, dwi'n meddwl, am nad ydyn nhw mor berffaith o ddi-nam nac wedi'u pecynnu mor hurt o daclus a gwastarffus mewn plastig. Mae digon o gynnyrch o Gymru a siroedd y ffin hefyd, pan fo'n dymhorol.

Er hynny, galla i ddeall fod pethau, efallai. yn wahanol tu fas i'r trefi mawr. Mae siopau bach yn Rhath yyn gallu fforddio prisio'n gystadleuol yn bennaf am fod llif gyson o gwsmeriaid yn dod drwodd, gan gadw'r tiliau'n canu.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Llun 17 Gor 2006 1:51 pm

Blewyn a ddywedodd:Os ydy prisiau'r siop gornel yn uchel, dweud wrth y perchennog pa bris fysat fodlon talu, h.y. gadael iddo wybod fod dy fusnes ar gael, am y pris iawn

Reit, bydd hwna'n gwitho. :rolio:
Rhyw fath o economi barter ti moyn ni gyd dychwelyd i?

Pan o ni yn G'dydd ('mond mis dwetha cwples i), o ni wastod yn pryni llysiau yn y siopiau fach Cathays neu'r Rath, oherwydd o nhw'n o well safon na'r rhai yn Tescos. A nawr ac yn y man prynes i cig o'r cigydd ar Hewl Crwys, ond dim yn aml.
Pryd fi cha'thre fi wastod gael cig o'n cigydd lleol, ma e'n perchen i'r teulu, a smo cig tescos yn cymharu o gwbl.

Ond popeth arall - fel bara (gaeodd popty lleol ni, na ble o ni arfer gael e), pasta, pethe'r golch, olew olif, blah blah blah, dwi'n gal o'r tescos lleol yn Pontardawe ga'th i sefydlu blwyddyn dwethaf. A mae e di neud daioni mawr i'r Cwm yn fy mharn i - so pethe felna ar gael yn siopiau lleol rownd ffor' hyn, a os ydy nhw, mae Tescos lot yn jepach. A hefyd mae'n hawsach i gael bethe - o blaen odd rhaid ddrifo i G'stell Nedd neu Abertawe.

Felly be dwi'n trial gweud yw mae'n amhosib fod yn gwbl idealistig o rhan ble ti'n siopa - ma rhaid gal rhai bethe o Tescos, a pethe arall o cwmnioedd lleol. Fel na mae, a fel na fydd hi.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Dili Minllyn » Llun 17 Gor 2006 2:31 pm

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Felly be dwi'n trial gweud yw mae'n amhosib fod yn gwbl idealistig o rhan ble ti'n siopa - ma rhaid gal rhai bethe o Tescos, a pethe arall o cwmnioedd lleol. Fel na mae, a fel na fydd hi.


Digon gwir – mi fydda i'n dal i brynu llawer o bethau i'r tŷ yn Sainsbury's, ond cyn lleied ag y galla i.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan sian » Llun 17 Gor 2006 2:46 pm

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Fel na mae, a fel na fydd hi.


Ond ai fel'na fydd hi? Dyna'r cwestiwn.
Ry'n ni'n eitha lwcus yma - dwy fan fara, fan lysiau a fan bwydydd amrywiol yn dod rownd - meddwl bod ni'n rhannu fan lysiau â'r Gath! Post y pentre a siop leol yn nwylo Cymry. Cigyddion da yng Nghaernarfon a Phwllheli a dwi i newydd ddarganfod siop fferm Glasfryn - sy'n hyfryd - ond mod i bob amser yn gwario mwy nag oeddwn i wedi feddwl yno.
Ond dwi'n dal i redeg rownd Morrisons i chwilio am bethau ychwanegol - yn enwedig pethau dau am bris un :wps:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 18 Gor 2006 1:33 am

Blewyn a ddywedodd:I'r gwrthwyneb - ddim dyletswydd moesol rhamantaidd ydy cynnal bywyd economaidd a chymdeithasol pentref, ond cyfle i sefyll fel cymuned annibynnol.


Rhamantiaeth llwyr yw son am economi pentref yn y Gymru gyfoes. Rwy'n byw mewn pentref sydd lai na phum milltir o Landudno a Bae Colwyn. Prin fod y pentref wedi cael "economi" ar wahân i'r ddwy dref ers dyfodiad y rheilffordd yn y 1870au. Yn ddi-os, ers y 1950au a dyfodiad y modur preifat mae'r pentref wedi bod yn llan lloft (?dormer village) i'w cymdogion mawr.

O dalu £5 yn fwy am fy neges seml yn siop y llan rwy'n cyfrannu i economi un teulu, teulu'r siopwr, yn unig, nid i economi'r pentref. Bydd y siopwr yn defnyddio ei elw i brynu ychwaneg o nwyddau yn warws Bookers (drws nesaf i Tesco) yn y Gyffordd. Cangen o gwmni "cenedlaethol" yn y Gyffordd bydd yn cael fy nghyllid siopa ar ddiwedd y dydd o'i wario yn Siop Llan neu o'i wario yn Tesco :!:

O siopa yn Tesco bydd y pum punt yn sbâr imi ei wario yn y dafarn leol , i roi ym mhlât casglu'r capel lleol, i dalu i weld sioe yn y Neuadd Goffa neu i brynu cacen cartref ym more coffi'r WI lleol. Pethau llawr llesach i'r pentref na chefnogi'r **** dan din sy'n cadw'r siop!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 18 Gor 2006 2:30 am

Cath Ddu a ddywedodd:Ddaru mi gyfyngu fy nadl i ddweud fod cig o siop gigydd yng Nghaernarfon yn well na chig Tesco.


Rwy'n ddeall be ti'n dweud, ac yn cytuno. Os yw siop annibynnol leol yn gallu cynnig rhywbeth ychwanegol i'r hyn mae Tesco neu Asda yn ei gynnig mae modd iddi gystadlu fel Dafydd yn erbyn Goliath.

Hyd yn oed yn y "provinces" (chwedl Garnet) mae hyn yn digwydd.

Mae siop Blas ar Fwyd, Llanrwst yn llwyddo yn hyn o beth, megis y mae'r cigydd Roberts o Gonwy.

Ond prin fod y siopau yma yn hybu siop y pentref. Eu llwyddiant yw denu pobl o bell i dalu am eu gwerth ychwanegol.

O deithio i Lanrwst i brynu cacen, caws neu win spesial o Blas ar Fwyd, rwy'n ymwrthod a'r Mr Kippling, y Liebfraumilch a'r Cheddar sy'n cael ei gynnig yn siop y Llan. Onid wyf, gan hynny, yn difetha economi'r pentref (yn ôl pleidwyr cefnogi'r siop leol), ru'n fath ag ydwyf gan deithio i'r Gyffordd i siopa yn Tesco?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Blewyn » Maw 18 Gor 2006 5:48 am

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Os ydy prisiau'r siop gornel yn uchel, dweud wrth y perchennog pa bris fysat fodlon talu, h.y. gadael iddo wybod fod dy fusnes ar gael, am y pris iawn

Reit, bydd hwna'n gwitho. :rolio:
Rhyw fath o economi barter ti moyn ni gyd dychwelyd i?

Ffacin ell ddyn petaet yn rhoi gymaint o egni mewn i ymdrech bositif i oresgyn dylanwad y busnes yma ar bentrefi Cymru (ac economi Cymru yn gyfan) ag wyt ti fewn i chwilio am resymau pam na fedri.....wel..

Pam na fyddai'n gweithio ? Sut ddiawl mae'r gwerthwr yn fod i wybod fod busnes ar gael os nad yw pobl yn dweud wrtho ? T'ydy pobl ddim yn psychic, a mae mewn natur pobl i chwarae'n saff drwy codi eu prisiau yn hytrach na gostwng. Yn amlwg mae posib i'r siop gornel ennill busnes HRF (os nad ydy o wedi ei swyno gan y siop fawr) ond ar y foment t'ydy o ddim.
Felly be dwi'n trial gweud yw mae'n amhosib fod yn gwbl idealistig o rhan ble ti'n siopa - ma rhaid gal rhai bethe o Tescos, a pethe arall o cwmnioedd lleol. Fel na mae, a fel na fydd hi.

Mae'na ddigonedd o bobl sy'n byw heb fynd ar gyfyl archfarchnad. Cadwa dy dynghediaeth cachwraidd i dy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Blewyn » Maw 18 Gor 2006 6:03 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Rhamantiaeth llwyr yw son am economi pentref yn y Gymru gyfoes.


Nonsens llwyr ! Mae'r rhan fwyaf o bentrefi Cymru yn ddigon pell o gytrefi mawr i gynnal economi annibynnol ! Dwi'n awgrymu mai anarferol - nid arferol - yw sefyllfa dy bentref di.

A pam nad ydy'r ceidwad siop yn haeddu dy gefnogaeth ? Onid efe yw'r unig un yn y pentref sydd o leiaf yn trio cyflenwi gwasanaeth ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Garnet Bowen » Maw 18 Gor 2006 12:34 pm

7ennyn a ddywedodd:Dwi'n byw ym Mhen-y-groes - ydi hynny yn ddigon 'provincial'?

Mae yna fecws ardderchog dros y ffordd, siop drws nesa ond chwech yn gwerthu llysiau blasus lleol, Co-op tua 50 llath i ffwrdd sydd yn gwerthu pob dim 'Fairtrade' dwi angen, cigydd 'top notch' rownd y gornel a Spar sydd yn gwerthu pob math o ddanteithion 'Blas ar Fwyd' a ballu. Ella byswn i'n gwario ychydig yn llai ar fy neges wythnosol 'taswn i'n siopa yn Tesco, ond bysa'r arbedion yn dipyn llai na chost y petrol fyswn i'n ddefnyddio i nol y neges.


Ti mewn sefyllfa lwcus iawn ym Mhenygroes, a tydi pawb ddim mor ffodus. Dwi'n byw ym Methesda, sydd yn bentref ddigon tebyg. Dwi'n cael bara o Londis (o fecws Cwm y Glo), ond prin iawn ydi'r adegau pan dwi'n prynnu o siopau eraill y pentref. Mi agorodd 'na siop cigydd dda iawn ar y stryd fawr rhyw ddwy flynedd yn ol, ac mi ydw i'n prynnu cig o fanno yn achlysurol. Ond mae hi'n cau ei drysau cyn i mi gyrraedd adra o'r gwaith - yn wahanol i Tesco Bangor sydd yn gorad drwy'r dydd a'r nos. Toes 'na ddim siop lysiau ym Methesda (dwi'm yn meddwl), ac yn bendant toes 'na ddim cynnyrch Blas ar Fwyd yn Londis.

Gai ofyn i chdi, 7ennyn, be ti'n neud pan ti ishio coginio cyri, a hynny heb ddefnyddio saws o bot? Be os wyt ti ffansi stiw chorizo? Neu tamaid o diwna ffresh? Be am botel o cava reit neis? Faint o'r rhein sy'n cael eu gwerthu ym Mhenygroes?

Tydw i ddim yn canu clodydd Tesco er mwyn bod yn awkward. Dwi'n licio bwyd da, ac yn hoffi coginio. A dwi wedi darganfod fod yn rhaid i mi fynd i Tesco i brynnu llawer iawn o'r bwyd dwi'n ei fwynhau. Ac yn wahanol i be mae'r proffwyd o Barhain yn ei honi, tydi Tesco ddim wedi tanseilio'r farchnad leol mewn chorizo neu cava. Doedd y nwyddau yma ddim i'w cael ym Mangor cyn dyfodiad yr archfarchnad.

Oes, mae 'na well cynnyrch i'w gael - yma ac acw - yng ngogledd Cymru. Ond fel rheol mae o'n fwy prin, yn llai cyfleus, ac yn dipyn drytach na'r hyn mae Tesco yn ei gynnig.

Yr hyn sydd yn bwysig i'w gofio ydi mai cynnig dewis i bobl mae Tesco. Os ydi Tesco yn niweidio busnesau lleol, yr unig beth mae hyn yn ei olygu ydi fod yn well gan bobl leol ddefnyddio Tesco na'r siopau oedd yna cynt. Mae'n gas gen i'r agwedd nawddoglyd sydd yn collfarnu pobl am brynnu'r nwyddau mae nhw'n ei hoffi, yn hytrach na'r nwyddau y mae pobl fel Blewyn yn mynnu eu bod nhw i fod i'w hoffi.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron