Mini'r Mincs yn erbyn cyfalafiaeth

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 18 Gor 2006 4:21 pm

Blewyn a ddywedodd:Nonsens llwyr ! Mae'r rhan fwyaf o bentrefi Cymru yn ddigon pell o gytrefi mawr i gynnal economi annibynnol ! Dwi'n awgrymu mai anarferol - nid arferol - yw sefyllfa dy bentref di.

:rolio:
Beth i ti wir yn gwbod am sefyllfa pentrefi Cymru? Dwi'n byw yn pentre sydd heb gael economi pentrefol ers gaeodd y pwyllau glo yn y Chwedegau, a na'r r'un peth o gwmpas y cymoedd rownd fan hyn. Ma pobol di bod yn trafelu i Gastell Nedd, neu Abertawe i moyn eu siopa fwyd ers oesoedd, a ma'r ffaith bod Tescos newydd agor yn Pontardawe yn neud fywyd yn lot hawsach i pobol 'ma, ac yn cynnig fwy o dewis iddi nhw.

Blewyn a ddywedodd:Mae'na ddigonedd o bobl sy'n byw heb fynd ar gyfyl archfarchnad. Cadwa dy dynghediaeth cachwraidd i dy hun.

A pob lwc i nhw. Ond dyw hwna dim yn meddwl bod y mwyafrif o bobol sy'n siopa nawr ac yn y man yn Tescos yn bradwyr i'r wlad, drwy dim ddangos cefnogaeth i'r economi y pentre', rhwbeth sydd dim wedi bodoli 'ma go-iawn am amser maith.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Blewyn » Mer 19 Gor 2006 6:24 am

Garnet Bowen a ddywedodd: Ac yn wahanol i be mae'r proffwyd o Barhain yn ei honi, tydi Tesco ddim wedi tanseilio'r farchnad leol mewn chorizo neu cava. Doedd y nwyddau yma ddim i'w cael ym Mangor cyn dyfodiad yr archfarchnad.

Gan fod y farchnad am y nwyddau yma erbyn hyn wedi ei greu, oes'na unrhyw reswm pam na ddylai rhywun agor delicatessen i gyflenwi y fath fwydydd ? Yn bwysicach na hyn - fysa ti'n eu cefnogi ?
Yr hyn sydd yn bwysig i'w gofio ydi mai cynnig dewis i bobl mae Tesco.

Yn wir - dewis rhwng rhoi eich arian i fusnes sydd yn prynu eu nwyddau dramor, ac yn talu eu helw i randdalwyr, ac yn talu trethi yn Llundain, neu roi eich arian i fusnes lleol breifat, sydd yn gwario cyfran llawer uwch o'r arian mae nhw'n dderbyn gennych yn lleol.
Mae'n gas gen i'r agwedd nawddoglyd sydd yn collfarnu pobl am brynnu'r nwyddau mae nhw'n ei hoffi, yn hytrach na'r nwyddau y mae pobl fel Blewyn yn mynnu eu bod nhw i fod i'w hoffi.

Dirmygus, nid nawddoglyd - t'ydw i ddim yn dweud fod pobl yn FOD i hoffi nwyddau o un lle yn fwy na'r llall - dwi'n dweud y dylia nhw brynu o lefydd sy'n cyfrannu tuag at yr economi leol, nid tynnu oddiwrtho.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Blewyn » Mer 19 Gor 2006 6:37 am

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Beth i ti wir yn gwbod am sefyllfa pentrefi Cymru?

Nad ydynt ddim gwahanol i bentrefi eriall yn unrhyw ran arall o'r wlad, a bod eu dyfodol yn nwylo eu pobl.
Dwi'n byw yn pentre sydd heb gael economi pentrefol ers gaeodd y pwyllau glo yn y Chwedegau, a na'r r'un peth o gwmpas y cymoedd rownd fan hyn. Ma pobol di bod yn trafelu i Gastell Nedd, neu Abertawe i moyn eu siopa fwyd ers oesoedd, a ma'r ffaith bod Tescos newydd agor yn Pontardawe yn neud fywyd yn lot hawsach i pobol 'ma, ac yn cynnig fwy o dewis iddi nhw.

Mae'n swnio i fi nad oes neb fodlon cymryd cyfrifoldeb dros eu cymuned yn dy bentref di, dim ond eisiau y ffordd hawdd bob tro. Os mai dyma sy'n bwysig i bobl, lle i dyfu cannon fodder ac adeiladu malls ayyb fydd dy ardal yn dragwyddol.
Blewyn a ddywedodd:Mae'na ddigonedd o bobl sy'n byw heb fynd ar gyfyl archfarchnad. Cadwa dy dynghediaeth cachwraidd i dy hun.

A pob lwc i nhw. Ond dyw hwna dim yn meddwl bod y mwyafrif o bobol sy'n siopa nawr ac yn y man yn Tescos yn bradwyr i'r wlad, drwy dim ddangos cefnogaeth i'r economi y pentre', rhwbeth sydd dim wedi bodoli 'ma go-iawn am amser maith.

So ti'n deud fod pobl sy'n cefnogi economi Llundain yn hytrach nag economi Cymru am eu fod yn rhy ddiog neu farus i aros allan o'r archfarchnad ddim yn fradwyr ?

Iesu Goc bobol da ni wedi dod yn bell ers oes y Streic Fawr yn do ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Dili Minllyn » Mer 19 Gor 2006 2:51 pm

Ac mae'r wobr am regfa'r wythnos yn mynd i...

Blewyn a ddywedodd:Iesu Goc bobol da ni
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Mer 19 Gor 2006 5:03 pm

Blewyn a ddywedodd:So ti'n deud fod pobl sy'n cefnogi economi Llundain yn hytrach nag economi Cymru am eu fod yn rhy ddiog neu farus i aros allan o'r archfarchnad ddim yn fradwyr ?

Fel oedd rhywun di son gynne yn yr edefyn, o ble ma'r siopiau lleol yn gael rhawn fwya o'i gynnyrch? Y cash & carry neu'r wholesalers. Cwmnioedd hollol Gymraeg fi'n siwr :rolio:
Fel o fi di gweud o' blaen, fi'n wastod pryni cig lleol a llysiau rhai weithie, neu gael nhw o'r ardd. O ni arfer gal llaeth o'r fferm lan y Cwm ond gaeoedd y busnes achos farwodd y ffarmwr, felly ma rhaid gael llaeth o rhwle arall.
Ond so ti gallu gael amrywiaeth o gynnyrch yn siopiau lleol - neu wyt ti'n awgrymu bod ni fynd nol i bwyta cawl bob nos? Fi'n gallu gwel dy ateb nawr - gofyn i'r perchennog y siop y pentre i gael nwyddau wahanol mewn. Reit, ond ma nhw'n jepach yn Tescos...a co ni'n mynd to.

...Bydd neb yn siopio yn Tescos, Asdas neu Sainsburys - bydd pawb yn mynd i Siop fach Denzil yng Nghwmderi...
...Bydd y chwyldro dim ar y teledu, gyfaill...
:winc:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 20 Gor 2006 3:52 am

Blewyn a ddywedodd:Yn wir - dewis rhwng rhoi eich arian i fusnes sydd yn prynu eu nwyddau dramor, ac yn talu eu helw i randdalwyr, ac yn talu trethi yn Llundain, neu roi eich arian i fusnes lleol breifat, sydd yn gwario cyfran llawer uwch o'r arian mae nhw'n dderbyn gennych yn lleol.


Ti'n dal i ramantu Blewyn bach. Mae'r dyddiau pan oedd busnesau lleol yn prynu nwyddau lleol i'w gwerthu'n lleol wedi darfod ers bron i ganrif.

Pa gigydd sydd yn prynu anifail o ffarm leol, yn ei ladd yn y lladd-dy lleol cyn ei werthu yn ei siop fach leol bellach? Dim un. Mae cig dy fwtiar lleol yn dod o gyflenwr canolog.

Ers cyn y rhyfel byd cyntaf mae'r rhan fwyaf o boptai Cymru wedi prynu eu blawd o gwmnïau rhyngwladol megis Hovis. O brynu eu blawd gan Hovis yn cael eu gorfodi i bobi eu bara yn ôl reset a safon Hovis ac wedi eu gwahardd rhag dilyn unrhyw reset personol, lleol na thraddodiadol.

Mae dy siop papur lleol yn gwerthu mwy o gopïau o'r Sun a'r Mirror nac ydynt o'r Daily Post neu'r Western Mail, oherwydd bod y siop leol yn prynu eu papurau gan ddosbarthwr canolog sydd yn cael cil-dwrn gan y papurau "cenedlaethol" i sicrhau bod eu cynnyrch yn cael eu gosod mewn safle mwy manteisiol na phapurau Cymreig.

Agora ffatri i greu melysion Cymreig neu greision Cymreig a cheisia gwerthu dy nwyddau trwy siopau pentref Cymru, cei dy siomi. Oherwydd bydd y siopau i gyd o dan orchymyn gan y cwmnïau mawr i beidio rhoi amlygrwydd i dy gynnyrch cynhenid o dan boen o gael eu gwahardd rhag gwerthu'r nwyddau mwyaf poblogaidd megis Kit Kat a Walkers.

Mae'n amlwg nad oes gen ti ddim o'r syniad lleiaf sut mae siopau bach yn cael eu rheoli yn y byd go iawn, rwyt yn rhamantu am ddyddiau maelan y 19eg ganrif. Mi fûm yn cadw siop fach yn Llanrwst ar un adeg ac o'r herwydd rwy'n gwybod o brofiad bod mwy o ryddid gan reolwr y gangen leol o Tesco i werthu ac i hybu cynnyrch lleol nag oedd gennyf i fel perchennog siop fach honedig annibynnol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Dili Minllyn » Iau 20 Gor 2006 10:56 am

Wel, Mr Rhech, mae honno'n swnio'n ddadansoddiad eitha' damniol o'r sut mae cwmnïau mawrion yn ystumio'r farchnad rydd er niwed i ni i gyd. Gwelwn ni ti ar y baracêds, felly.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 21 Gor 2006 9:41 am

Mae dadansoddiad yr Hen Rech yn dwyn i 'nghof un Hilaire Belloc yn 1936: "The chain shop, as we now know, has...not only the evil o destroying the small distributor, but the further evil of controlling wholesale distribution and even production."

Roed ateb Belloc i hyn, wrth gwrs, yr un peth â'r un a gynigiai Saunders Lewis a Phlaid Cymru yn yr 1920au, sef ysgafnhau'r trethi'n yn sylweddol ar siopau bach a gosod trethi cosbol ar y cadwyni mawr o siopau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Blewyn » Sad 22 Gor 2006 7:03 am

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Fel oedd rhywun di son gynne yn yr edefyn, o ble ma'r siopiau lleol yn gael rhawn fwya o'i gynnyrch? Y cash & carry neu'r wholesalers. Cwmnioedd hollol Gymraeg fi'n siwr :rolio:

Ti'n methu'r pwynt yn hollol. Hyd yn oed os ydy nhw'n prynu o'r wholesalers (alla fod yn Gymraeg) o leiaf mae'r elw retail yn mynd i boced lleol, yn hytrach na boced estron ty allan i'r economi lleol.
Ond so ti gallu gael amrywiaeth o gynnyrch yn siopiau lleol - neu wyt ti'n awgrymu bod ni fynd nol i bwyta cawl bob nos? Fi'n gallu gwel dy ateb nawr - gofyn i'r perchennog y siop y pentre i gael nwyddau wahanol mewn. Reit, ond ma nhw'n jepach yn Tescos...a co ni'n mynd to.

So ti'n cwyno a nadu am fod dy bentref ar ei din ond ti ddim yn fodlon gwneud heb dy sun-dried tomatos na fish fingers rhad na chodi bys i'w helpu ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Blewyn » Sad 22 Gor 2006 7:13 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Ti'n dal i ramantu Blewyn bach. Mae'r dyddiau pan oedd busnesau lleol yn prynu nwyddau lleol i'w gwerthu'n lleol wedi darfod ers bron i ganrif.

Cachu rwtch ! Mae chwiliad sydyn o "farm shop wales" ar Google yn dangos bron i bedwar miliwn o atebion !!! Dyma un :

http://www.thefoody.com/regions/walesproduce.html
Mae'n amlwg nad oes gen ti ddim o'r syniad lleiaf sut mae siopau bach yn cael eu rheoli yn y byd go iawn, rwyt yn rhamantu am ddyddiau maelan y 19eg ganrif. Mi fûm yn cadw siop fach yn Llanrwst ar un adeg ac o'r herwydd rwy'n gwybod o brofiad bod mwy o ryddid gan reolwr y gangen leol o Tesco i werthu ac i hybu cynnyrch lleol nag oedd gennyf i fel perchennog siop fach honedig annibynnol.

Mwy o bwer i sefyll i fyny at y cyflenwyr bwyd, mi gredaf, ond mwy o ryddid ? D'oes dim RHAID i ti gymryd eu cynnyrch.....a mae'na digonedd o siopau ar draws y wlad sydd yn gwerthu cynnyrch annibynnol yn hytrach na'r stoc 'me too' megis baked beans a mars bars.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai