Blewyn a ddywedodd:Nonsens llwyr ! Mae'r rhan fwyaf o bentrefi Cymru yn ddigon pell o gytrefi mawr i gynnal economi annibynnol ! Dwi'n awgrymu mai anarferol - nid arferol - yw sefyllfa dy bentref di.
Beth i ti wir yn gwbod am sefyllfa pentrefi Cymru? Dwi'n byw yn pentre sydd heb gael economi pentrefol ers gaeodd y pwyllau glo yn y Chwedegau, a na'r r'un peth o gwmpas y cymoedd rownd fan hyn. Ma pobol di bod yn trafelu i Gastell Nedd, neu Abertawe i moyn eu siopa fwyd ers oesoedd, a ma'r ffaith bod Tescos newydd agor yn Pontardawe yn neud fywyd yn lot hawsach i pobol 'ma, ac yn cynnig fwy o dewis iddi nhw.
Blewyn a ddywedodd:Mae'na ddigonedd o bobl sy'n byw heb fynd ar gyfyl archfarchnad. Cadwa dy dynghediaeth cachwraidd i dy hun.
A pob lwc i nhw. Ond dyw hwna dim yn meddwl bod y mwyafrif o bobol sy'n siopa nawr ac yn y man yn Tescos yn bradwyr i'r wlad, drwy dim ddangos cefnogaeth i'r economi y pentre', rhwbeth sydd dim wedi bodoli 'ma go-iawn am amser maith.