Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 28 Gor 2006 1:20 pm

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
Beatles, Ash, Suede, Radiohead, Melys, Robert Sean Leonard, Dean Cain, My Little Pony, My Child, ...llwyth o bobl.

2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*?
O'n i'n aelod o ffan clyb My Little Pony. Odd fy nghariad at yr holl fandiau yn amlygu'n bennaf ar gloriau llyfrau ysgol - lot o sticeri ar y tu fas, a lyrics caneuon wedi'u sgwennu ar y tu fewn. Odd 'y'n ffeil arlunio i yn bictiwr o hysbysebion, posteri a sticeri bands... O, a unwaith 'nes i greu collage/peintiad o fands cool-cymru (sori am hwnna.)

3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
'Nes i'm byd eithafol byth. Jyst byw ym myd bach 'yn hun a dychmygu pa bynnag eilun du jour a finne'n sgippo mewn i'r machlud.

4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun?
O'n i'n selog dros ben i Suede. Nhw ddisodlodd Ash a'r Beatles, a 'nath neb ar 'u holau nhw gyrraedd cweit 'r un lefel o gariad. Fysen i'n tapio bob rhaglen o'n nhw'n ymddangos arni, yn darllen bob erthygl - ond dim ond un gig es i iddi erioed - yng Nghasnewydd. Dwi'n dal i garu nhw rili...

5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Pe bai fi'n cwrdd Brett Anderson fory, wy'n eitha sicr taw fe fydde'r dyn cynta i ddeall fi go iawn, a finne fyntai, a fydde'r ddau o'n ni'n sgippo mewn i'r machlud fel yn fy mreuddwydion gynt :winc:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 28 Gor 2006 2:13 pm

Manon a ddywedodd:Torri fy nghalon pan gath Bryn Fon ei arestio efo'r busnas Meibion Glyndwr 'na... o'n i 'mond tua saith ac o'n i'n beichio crio wrth wylio'r newyddion achos bod y lyf of mai laiff mewn cell

Dwi'n cofio'r diwrnod hwnnw yn iawn. Manon yn gwisgo ei chrys T Sobin ac yn cau â dwad o'i llofft a'r unig beth i'w glywed o'r tu allan oedd swn wylofain a Ta Ta Botha!


1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
Robin Hood Prince of Thieves.

2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)
Roedd gen i bosteri ym mhobman yn fy stafell. Roeddwn i'n gwybod bob gair o'r sgript, ac edrych ar y fideo heb swn o leia teirgwaith yr wythnos er mwyn profi hynny (profiad difyr i fy nheulu a chyfeillion dwi'n siwr). Roeddwn i hefyd yn byw mewn breuddwyd bob dydd am fod yn seren yn Robin Returns. Mi dreuliais bob dydd o haf 1992 yn fy llofft yn synfyfyrio am hyn, a fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd hefyd - ar y bws i'r ysgol, yn y gwersi - trwy'r amser.

3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
Does gen i ddim cofnod hanesyddol i edrych yn ol arno o 1992-93 o gwbl. Y noson cyn dechrau'r ysgol uwchradd, sydd i fod yn amser llawn cynnwrf, dyma ymddangosodd yn fy nyddiadur i:

2 Medi 1992 a ddywedodd:Prynhawn yn rhydd o'r ffilmio heddiw. Aeth Kev [Costner], Christian [Slater], Mary [Mary Elizabeth Mastrantonio sef Maid Marian] a fi yn ôl i'r gwesty. Roedd hi'n boeth, ac ar ôl awr yn y pwll fe gaethom cocktails wrth y bar. Roedd Al [Alan Rickman] yn ffilmio yn y goedwig trwy'r dydd, a phan wnaeth o ymuno efo ni tua 6 roedd o'n cwyno nad oedd o wedi gweld dim o'r haul a'i fod mewn tywyllwch drwy'r dydd


4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)
Selog iawn. Pan gesh i gariad yn fform tw, roeddwn i'n poeni fy mod i'n two-timeio fy nghariad o Robin Returns, ac yn meddwl am ffyrdd o gadw'r gyfinach :wps: (Erbyn hyn roedd y ffin rhwng bywyd a ffantasi yn niwlog iawn!)

5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Dwi'n amau yn fawr a fyddan nhw byth yn clywed amdana'i. Ar y pryd roeddwn i'n twyllo fy hun i gredu fod hyn i gyd yn bosibl gan fy mod i'n mynd i Ysgol Glanaethwy a hanner ffordd i fod yn seren yn barod. Mae Christian Slater yn actio yn One Flew Over the Cuckoo's Nest yn Llundain dyddia yma - efallai a'i draw a gofyn os dio ffansi mynd am goctels eto!
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan HBK25 » Gwe 28 Gor 2006 2:28 pm

O'n i'n ddigon nyts am straeon Robin Hood ers talwm hefyd! :crechwen:

"LOCKSLEY! I'M GONNA CUT YOU'RE HEART OUT WITH A SPOON!" :crechwen: :syniad:

Wnes i gywaith am chwedlau Robin Hood pan gofynnodd fy athrawes Gymraeg i ni 'sgwennau am ein diddordebau. Es i weld pantomeim Robin Hood gan Brownies Llanidloes yn 1990, hefyd.

Dwi dal yn gwylio Robin of Sherwood ar ITV 3. Sad bastard that I am!
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 28 Gor 2006 3:52 pm

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
Manics. Bjork. Spectrum 128K+2.

2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)
Dim byd rhy nyts: Manics - canu eu caneuon bob nos efo ffrind pan oeddan ni'n cwrdd am ffag; Bjork - casglu pob dim gallwn i o'r NME, Select ac ati amdani; Spectrum - roedd fy stafell/llyfrau ysgol yn cyfyrd mewn posteri gemau Spectrum

3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
Dim byd rili, nesh i feddwl scratsho "4 REAL" yn fy mraich fel Richie efo hoelan, ond o'n i'n gormod o wimp (neu jest call, ella). Nes i iwsho ffelt pen yn lle...

O'n i'n hollol gyted pan ddudodd met i fi fod Bjork wedi aros yn Penmaenucha Hall (roedd o'n chef yno) a gafodd o albym wedi'i arwyddo. Pam, o pam, wnaeth o ddim deutha fi! Aparyntli, doedd hi ddim isio aros yn y lle moethus, felly nath hi pitsio tent ar y lawn. Recordio fideo yn Ganllwyd oedd hi, efo Michel Gondry dwi'n meddwl.

4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)
Aeth Manics yn shit ar ôl Richie, felly gollish i fynadd. Dwi dal mewn cariad efo Bjorksan. A mae 'na le arbennig i'r Speccy yn fy nghalon yn dal i fod.

5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Digon diflas. Ddaru boi drio bomio hi felly, dwi ddim patsh arno fo. Dwi'm yn meddwl fod y Speccy yn meddwl lot ohona i.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Manon » Gwe 28 Gor 2006 4:35 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Does gen i ddim cofnod hanesyddol i edrych yn ol arno o 1992-93 o gwbl. Y noson cyn dechrau'r ysgol uwchradd, sydd i fod yn amser llawn cynnwrf, dyma ymddangosodd yn fy nyddiadur i:

2 Medi 1992 a ddywedodd:Prynhawn yn rhydd o'r ffilmio heddiw. Aeth Kev [Costner], Christian [Slater], Mary [Mary Elizabeth Mastrantonio sef Maid Marian] a fi yn ôl i'r gwesty. Roedd hi'n boeth, ac ar ôl awr yn y pwll fe gaethom cocktails wrth y bar. Roedd Al [Alan Rickman] yn ffilmio yn y goedwig trwy'r dydd, a phan wnaeth o ymuno efo ni tua 6 roedd o'n cwyno nad oedd o wedi gweld dim o'r haul a'i fod mewn tywyllwch drwy'r dydd




Mae hynna yn ANHYGOEL o ciwt. 'Dwi'n cofio chdi'n gw'bod y sgript, ac ma' raid bo' chdi'n gw'bod o'n dda achos 'dwi'n gwybod 80% ohono fo ar ol gwrando arna chdi'n deud o! (A'r peth creulona' ti rioed di deud wrtha fi ydi, "Manon, ti'n ffansio'r Man of the Cloth") :D
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 28 Gor 2006 6:14 pm

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
Dw i wastad yn ffan o rywbeth cyn symud ymlaen a bod yn ffan o rwbath arall wedyn, o hyd constant.

2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)
Treulio amser yn fy meddwl yn ystyried pethau yn ymwneud a beth bynnag dw i'n ffanatical am ar y pryd.

3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
Un anodd. Dw i'n neud rwbath ar y funud ond uda i ddim.

4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)
Wel, beth bynnag dw i'n ddilyn ar y pryd dw i'n ffanaticaidd. Wirioneddol yn. A wedyn dw i'n bord ac yn neud rwbath arall.

5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
O'r holl eiluniau yn fy myw, bydda pob un yn fy nghasau.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Lowri Fflur » Sad 29 Gor 2006 12:48 pm

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth? Cymdeithas Yr Iaith

2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…) Aelod yn 13 oed, gwneud llynia tafod y ddraig ar bob llyfr ysgol ac ar wal y toilets. Darllen maniffesto Deddf Iaith a Deddf Eiddo am oriau allan o ddiddordeb :wps: . Mynd mewn i ddadleuon am oriau efo pawb dan haul am yr angen am hawliau i'r Gymraeg a pa mor effeithiol ydi gweithredoedd di-drais. Mynd i coleg a cael fy arestio yn fy mhrotest cyntaf am "breach of the peace". Cael fy arestio un waith arall am "breach of the peace" a tair gwaith am "criminal damage." Gadalel i'r heddlu lusgo fi a cael fy llusgo allan o'r cynulliad gan security. Troi fynny i bron bob protest. Mynd ar senedd am flwyddyn a dewis eistedd mewn cyfarfod trwy un dydd Sadwrn bob mis.
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*? Dwn im, efallai eistedd mewn cell yn poeni dim, yn teimlo'n hollol falch achos bod fi'n meddwl bod fi 'di gwneud rhywbeth i fod yn falch am.

4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?) Cwestiwn anodd, yn hollol angerddol dros y Gymraeg a teimlo fel sgrechian bod ni ddim yn ddinasyddion eilradd yn ein gwlad ein hunain, bod ni'n bobl, bod gyna ni a' n iaith yr hawl i fodoli. Ond dwn im, dwi yn bendant ddim yn dyfaru gweithredu dros Gymdeithas Yr Iaith ond dwi'm yn gwybodos nai neud o eto. Profiadau wedi newid fi dwi'n fwy euddfed, yn gallach ond yn anffodus yn fwy hunanol, achos i ryw raddfa ti ar ben dy hun yn yn byd a ti'n gorfod cymeryd gofal o dy hun, gwers anodd i ddysgu ond dwi wedi ei ddysgu. Dwi ddim eisiau criminal record, dwi ddim yn licio bod mewn cell a dwi ddim yn licio'r teimlad o beidio gallu gadael pam dwi eisiau. Dwi'n licio'r teimlad o fod yn un ymysg pobl sydd eisiau achub yr iaith ond eto realiti y sefyllfa ydi na fysa y rhanfwyaf o'r bobl sydd yn dy longyfarch am weithredu yna i chdi pam mae pethau yn mynd yn anghywir, pam mae'r cachu yn hitio'r ffan go iawn. Ti'n cael dy barchu am be ti'n neud ddim am y person wyt ti, dydi hynny ddim digon da i fi yn bersonol. Yr unig bobl dwi eisia yn fy mywyd ydi pobl sydd yn fy ngharu go iawn. Sgyna fi ddim mynadd efo'r pretension, mae o'n gwneud o'n anodd i fi wybod pwy ydi fy ffrinidiau.Dim bod fi'n dweud bod fi wedi gweithredu i wneud argrafff a'r bobl raill ond mae o'n hawdd cale dy ddal yn yr emosiwn.

Hefyd dwi'n teimlo fel bod fi di cael llond bol ar wleidyddiaeth a'r iaith am rwan, mae o'n faich a dwi 'di cael digon, dwi am gael brec yng Nghaerdydd. Mae yna lwyth o resymau pam bod fy ‘ffanatigiaeth’ wedi dod i ben am rwan, ond dwi 'di mwydro digon. Dwin dechrau cael verbal daiaria a dwiam sdopio.
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Sori dwi ddim yn deall y cwestiwn :? :) .
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan nicdafis » Sad 29 Gor 2006 6:03 pm

Maddeuwch i fi, ond dw i wedi postio fy atebion ar Morfablog, gan fod angen rhywbeth i sgwennu amdano arna i.

Peidiwch teimlo fel bod rhaid i ymweld, naci, yn sicr, bod croeso i chi fy noddi yn y Blogathon.

Di-gywilydd. Sori Dwlwen. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron