Fe dderbyniais gopi o 'Yr Enfys' ddoe, cyfrol y Gwanwyn 2006, ac ynddo fe ddarllenais y newyddion diflas am y bwriad i ddileu y croeso swyddogol i Gymry tramor yn Eisteddfodau'r dyfodol.
Fedrwn i ddim coelio'r ffashiwn beth. Wel dyna ichi sioc, heb son am fy ngwneyd i deimlo fel Cymro ail law.
Hwyrach mai camgymeriad oedd y cyfan; ond na, fe ddarllenais yr un peth yn y Daily Post ac ar dudalen We BBC Cymru'r Byd.
Wel duwcs dyna siom a minnau'n wastad wedi ymhyfrydu yn y ffaith mod i'n perthyn i genedl gyda chariad sefydlog a pharch dilychwin tuag at ei thraddodiadau:
"Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn."