Tafarn Ty Elize

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tafarn Ty Elize

Postiogan Cardi Bach » Mer 09 Awst 2006 10:11 am

Newydd ddod nol o wylie yn Llydaw.
Eson ni draw i'r wyl Geltaidd yn Lorient - stori arall yw honna - ond am un diwrnod ethon ni o amgylch canol Llydaw.
Wedodd ffrind i fi fod yn rhaid i ni fynd i Huelgoad a mynd am y dafarn yma oedd mewn pentref gerllaw.
Felly mi ethon ni i Huelgoad a ffeindio'n ffordd oddi yno i bentref Plouye, tua 8km i ffwrdd.

Welo ni'r dafarn fach yma yn syth.
Odd banner y ddraig yn hongian yn bert tu fas iddo fe. Hefyd yn sefyll tu fas odd na fan werdd gyda sticeri Plaid Cymru, Cymdeithas yr iaith a phob math o bethe cenedlaetholgar Cymreig erill.

O fynd mewn ma'r bachan ma yn bloeddio siarad gyda ni yn gofyn o ble oedden ni wedi teithio, a medde ni Cymru, ac ynte wedyn a llond pen o Gymrag!

Bachan o'r enw Bernard Walters o Ferthyr odd y gwr oedd wedi symud mas i Lydaw 27 mlynedd yn ol, a fe odd berchen y dafarn yma 'Tavarn Ty Elise'. Odd e'n gyn ymgeisydd i Blaid Cymru yn ward Penderyn.

Wel mi arhoson ni am dipyn i yfed y Coreff (odd y rhai Stowt, Amber, a Rouge yn odidog, ond ges i ddim amser i flasu'r gweddill), cyn bo ni'n gorfod gadel am Fez Noz yn Carhaix.

Ma'n siwr bod eraill o'r Maes wedi dod ar draws Bern yn Nhy Elise.
Unrhyw straeon wrth eraill?

Bydden i'n argymell pobl i daro ymweliad os y'ch chi yn yr ardal.

Dyma fe Bern yn ei dafarn:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Y Crochenydd » Mer 09 Awst 2006 10:18 pm

Ty Elise y lejendery. Wedi bod yno cwpwl o weithiau, ond dim ers ryw bum mlynedd. Ydi'r lloriau'n dal mor anesmwyth a'r arwydd Dowlais dal ar y wal tu allan? Mae Bun (Bernard, y perchennog) yn gymeriad, i ddweud y lleiaf, ond yn werth eistedd lawr am ddrinc a sgwrs ar brynhawn tawel neu noson wyllt. Os da'ch chi'n mynd i ymweld, ewch a cd neu ddau o stwff Cymraeg iddo. Nes i roi'r compileshyn o'dd da fi'n y car iddo da stwff fel Anweledig a Gogz arno. Odd e wrth ei fodd, a gethon ni ddrincs, sticars a chrysau t Ty Elise am ddim ganddo. Doedd dim gwesty yn y pentref o gwbwl tro dwethaf o'n i na, ydi pethe di newid? Swn i'n lico cael sesh go iawn yna rhywbryd...
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Waen » Gwe 15 Medi 2006 9:09 pm

Lle da am sesh :lol: es i yno yn 1989 (ganrif diwethaf!) ar daith o gwmpas Llydaw.
Dyma sketch o Meic tu mewn yn Ty Elise ( cyn y sesh 8) )
Delwedd
Mae gen i sketch o'r eglwys yn plouye yma hefyd, lle prydferth 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Postiogan Nei » Sad 16 Medi 2006 4:56 pm

Bues i yna gwpwl o weithie, gyda nghefndrid yn Llydaw ac yn hwyrach gyda'n rhieni, Roedd Bun o hyd yn dweud wrtha i fel ddaeth i nabod fy mam a nabod fy nhad cyn iddyn nhw nabod ei gilydd, sai'n credu taw fe sy'n gyfrifol am y matmaking ddaeth a fi i fodolaeth ond roedd e wastad yn falch o'r ffaith.

Un peth gweddol ddoniol amdano'n dysgu FFrangeg oedd y byddai'n arfer dweud wrth bawb a hithau'n amser cau ymhen draw sesh go wlyb: "Je veux que tu part tout le monde, merci" ac fe gywirwyd e gan rhywun(falle nhad) i ddweud "Il faut que VOUS Partiez maintenant, merci" ond gwrthodai Byn ddweud hyn am ei fod e'n nabod pawb oedd yno a felly ddim am alw 'vous' neu chi ar ei ffrindiau.

Ta beth, yffach o le, hirbarhad i Byn a'i Dafarn.
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron