Platiau Ceir Ewrop

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Platiau Ceir Ewrop

Postiogan Mici » Iau 10 Awst 2006 12:37 pm

Dwnim lle i rhoi'r edefyn yma. Mae trafnidiaeth yn grwydro felly driai fama

Bore ma wrth fynd i'r gwaith roeddwn tu-ol gerbyd efo sticer Cymru ddraig goch ar un ochr, plat car efo llythyrennau od a sticer arall undeb Ewropeaidd, roeddwn yn tybio mai NL oedd o ar y sticer baner Ewrop sef yr Iseldiroedd ond wrth graffu gwelais mai VL oedd o.

Crafais fy mhen am chydig yn meddwl pa wlad Ewropeaidd y fyddai VL yn cynrychioli(Meddyliais mai Liechentstein oedd o Vichy of Liechenstein neu rwbath, mi fuasai hynny wedi bod yn cwl gan mai mond 33,000 sydd yn byw yno).

Beth bynnag nes i gwglo a mynd ar wikipedia a darganfyddais mai sir yn Rwmania ydi hi http://en.wikipedia.org/wiki/Romanian_car_number_plates

Dau beth sydd yn od am hyn, dydi Rwmania heb ymuno ar U.E eto a doeddwn ddim yn ymwybodol fod siroedd ac ardaloedd o fewn gwlad yn cael ei arddangos.

Rhywun arall wedi gweld platiau ceir anghyffredin yn ddiweddar :?:
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan garypritch » Iau 10 Awst 2006 12:44 pm

Ydi'r VL yn debyg i'r CX, CW ayyb sydd ar blatiau Prydeinig i ddynodi eu bod yn dod o Gymru?
Rhithffurf defnyddiwr
garypritch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Llun 07 Awst 2006 12:16 pm

Postiogan Mici » Iau 10 Awst 2006 12:53 pm

Digon posib, ond roedd y geiriau 'VL' arwhan tu fewn i'r faner ser Ewropeaidd.

Oes gan Cymru lythyren i ei hun i ddynodi gwlad?, rhyfedd fod siroedd o fewn Rwmania yn cael lythrennau a hwythau ddim hyd yn oed yn yr U.E eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan garypritch » Iau 10 Awst 2006 1:09 pm

Does wybod os oedd o'n fathodyn swyddogol cofia - ac o mhrofiad i, mae llawer i wlad yn Nwyrain Ewrop yn ystyried y sêr yn gyfystyr ag Ewrop nid yr Undeb Ewropeaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
garypritch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Llun 07 Awst 2006 12:16 pm


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai