gan Garreg Lwyd » Iau 21 Medi 2006 9:51 pm
Gallaf argymell Ynysoedd Heledd (Outer Hebrides) yn bendant – traethau gwyn, y môr yn wyrddlas, y bobl yn hynod gyfeillgar, llonyddwch a byd natur ar ei orau – ond POPETH ar gau ar y Sul yn Lewis, Harris a Gogledd Uist. Mae Ynys Barra yn lle da i gychwyn, blas o holl ynysoedd y gadwyn, ond fy ffefryn i yw Gogledd Uist.
Las Vegas hefyd yn brofiad anhygoel – ond ar y pegwn eithaf i Ynysoedd Heledd!
Fy llefydd i:
1 Ynysoedd Faroes
2 Nôl i Fenis
3 Ffindir
4 Nôl i Las Vegas a dwyrain California
5 Môr Marw
6 Santorini
7 Ynys Enlli
8 Japan (yn enwedig i'r Parc Cenedlaethol lle ffilmion nhw House of Flying Daggers)
9 Bilbao a gogledd Sbaen draw i Santiago de Compostela
10 Cael gorffen fy nyddiau a marw yn Ynysoedd Heledd
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams