[canllawiau] 1c Cymedrolwyr sedd cefn

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

[canllawiau] 1c Cymedrolwyr sedd cefn

Postiogan nicdafis » Iau 06 Ion 2005 2:44 pm

canllawiau maes-e a ddywedodd:1c. Peidiwch gweithredu fel "cymedrolwr y sedd cefn". Os welwch chi rywbeth sy'n torri un o'r canllawiau yma, croeso i chi dynnu sylw y cymedrolwyr perthnasol ato fe. Peidiwch â gwneud pethau'n waeth gan ymateb yn ffyrnig i aelodau sy'n torri'r rheolau.


Mewn geiriau eraill, paid â bwydo'r troliau.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Mer 19 Ion 2005 12:09 pm

Er enghraifft, dw i newydd ddileu cwpl o negeseuon o'r <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=10369">edefyn hwn</a>. I ddechrau off, mae <b>Ti 'di beni?</b> yn dweud "Fysa pawb sydd efo diddordeb yn ymateb i'r edefyn hwn?" sy'n ddigon teg, ond dyw e ddim yn golygu taw fe sy'n cymedroli'r edefyn. Wnaeth <b>Rhys Llwyd</b> <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?p=154579#154579">jôc bach</a>, ond wnaeth hwnna ddim torri ar draws yr edefyn, ac aeth pethau yn eu blaen, nes i <b>Ti 'di beni?</b> penderfynnu dweud y drefnu wrth Rhys am faeddu wneud jôc yn "ei edefyn e". Ac wedyn, wrth gwrs, mae rhaid i Rhys ymateb i'r cyhuddiad difrifol iawn hwnna, ac yn lle edefyn lle mae pobl yn trafod y posibiliad o gael seiat newydd ar y maes, dyn ni mewn edefyn am egos bregus dau faeswr.

Dw i ddim yn pigo ar y ddau ohonoch chi fan hyn, jyst defnyddio'r edefyn fel enghraifft o rywbeth sy'n digwydd bob dydd ar y maes.

Pwnc yr edefyn hwnna yw "Seiat newydd - Gwyddoniaeth", nid "a oes hawl 'da Rhys Llwyd wneud jôc yn fy edefyn i?" neu "A oes synnwr hiwmor 'da Ti 'di bennu?"

A plis, peidiwch â dod yn ôl gyda'r "Sori Mr Dafis" ffug-barchus arferol - dw i ddim yn athro ysgol sul blin, dw i'n jyst trial rhedeg gwefan lle mae pobl yn gallu cael sgwrs bach.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Mer 14 Rhag 2005 11:11 am

*bwparama*
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 17 Rhag 2005 4:21 am

Wedi cyfeiriadau at fan hyn mewn dau edefyn arall yn cwyno am fy "nhgymedroli sedd gefn", disgwyliais gerydd / eglurhad ond yr hyn cafwyd oedd:
nicdafis a ddywedodd:*bwparama*


Be?????????.
Be 'di be???????.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Cardi Bach » Sad 17 Rhag 2005 8:37 am

Rhag ofn fod yna gamddealltwriaeth o ddifri, mae'r neges "Bwparama" yn golygu fod Nic wedi postio'r neges er mwyn fod yr edefyn yn dod i frig y seiat ac yn amlwg i bawb ei ffeindio.

Mae'r cyfeiriadau at yr edefyn yr wyt ti'n son amdanynt yng nghyd-destun dy 'gymedroli sedd cefn' yn gofyn ar i ti, a phawb arall, i ddarllen y canllaw unwaith eto er mwyn fod pawb yn cael eu atgoffa ohono, ac fel bod neb yn penderfynnu bod yn gymedrolwyr sedd cefn.

Mae digon o waith gan gymedrolwyr i wneud beth bynnag, heb son am dacluso smonach ymdrechion eraill i gymryd y gyfraith iw dwyo eu hun, fel petai. Dyna'r oll. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 17 Rhag 2005 9:32 am

Diolch Cardi Bach, a Nadolig Llawen.

Rwy
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan nicdafis » Gwe 22 Medi 2006 8:11 am

*bwp* *bach* *eto* ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 23 Medi 2006 3:38 am

Edefyn od ar y diawl!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron