Phantom wheres your mask!

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 31 Ion 2003 12:47 pm

Be son am Oldham yn canu i ni neu ffordd arall wyt ti?
Does gan ffasgwyr a bobl hiliol ddim y brens i studio dearyddiaeth maen amlwg.

Gwranda - Truce? - Nai stopio dy brocio ond i ti drio deall yr hyn dwi'n ei ddweud. Nai drio gwrando ar dy ddadleuon ti hefyd.
Sorri am dy alw yn dwlsyn.
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Aelod Llipa » Gwe 31 Ion 2003 9:17 pm

Ma'r mwyafrif o Gymry yn considro'r Saesneg fel ei "hiaith nhw". Dwi'n considro'r Saesneg fel un o fy ieithoedd i. Yr iaith frodorol, felly, i'r mwyafrif, yw Saesneg.[quote]

Yn anffodus mae llawer o Gymry di-gymraeg, ac ambell Gymro Cymraeg, yn wirioneddol credu fod Saesneg yn perthyn i Gymru !!!
Y gwirionedd yw NAD YW'R Saesneg yn perthyn i Gymru, i'r Alban, I'r Iwerddon, I Ynys Manaw, I Ogledd America, I Awstralia, I Gibraltar a.y,b. Yr unig reswm fod y Saesneg yn y mannau hyn yw drwy effaith "Coloneiddio"
Dysga dy hanes !!!!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Di-Angen » Gwe 31 Ion 2003 10:47 pm

Aelod Llipa a ddywedodd:Yn anffodus mae llawer o Gymry di-gymraeg, ac ambell Gymro Cymraeg, yn wirioneddol credu fod Saesneg yn perthyn i Gymru !!!
Y gwirionedd yw NAD YW'R Saesneg yn perthyn i Gymru, i'r Alban, I'r Iwerddon, I Ynys Manaw, I Ogledd America, I Awstralia, I Gibraltar a.y,b. Yr unig reswm fod y Saesneg yn y mannau hyn yw drwy effaith "Coloneiddio"
Dysga dy hanes !!!!!!!!


Mae'r Saesneg yn perthyn i Gymru ac i unrhywle mae'n cael ei siarad yn naturiol. Er falle nid iaith hanesyddol Cymru (dibynnu ar dy ddiffiniad o "hanes" beth bynnag - dydy e ddim fel fod Cymraeg wedi cael ei siarad yma ERIOED a bod y Celtiaid yn totally native i'r ynys), y Saesneg erbyn hyn yw iaith naturiol mwyafrif o bobl Cymru.

Dyw lle mae'r iaith wedi dod o'n wreiddiol ddim llawer o ots.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Sad 01 Chw 2003 9:28 am

Cytunaf ac anghytunaf. Mae'n bach yn beryglus i drafod shifft ieithyddol (sy'n ffenomenom cymdeithasol) mewn termau "naturol" ac "annaturol". Mae'r proses hanes sydd wedi arwain at y sefyllfa presennol yng Nghymru yn gymhleth iawn ac yn cynnwys gorfodaeth ar ran llywodraeth a oedd yn ymwybodol o ei rôl coloneiddio, ond hefyd yn meddwl (yn anghywir, fydden ni'n dweud) bod yr iaith Gymraeg yn dal y Cymry yn ôl (popeth o Ddeddf Uno 1536 i'r Llyfrau Gleision 1847 yn dew gyda sylwadau am arwder yr iaith a'r ffordd mae'n cadw ei siaradwyr "dan y hatsys"). Mae hefyd yn cynnwys <i>complicity</i> y werin bobl, a oedd yn barod iawn i newid eu hiaith dan bwys anferthol economaidd. Y gwir yw doedd dim ffyc o ots 'da lot fawr o Gymry am eu hiaith a'u diwylliant, am y rheswm syml bod pethau mwy pwysig 'da nhw i boeni amdano.

Ti'n iawn i ddweud nad yw'r Gymraeg "iaith frodorol cyntaf un" yr ynysoedd yma, ond mae cysylltiad di-fwlch rhwng siaradwyr Cymraeg ein hamser ni, a siaradwyr Brythoneg amser Crist. Dyn ni ddim yn gwybod beth digwyddodd i'r bobl cyn-Geltiaid - tebyg iawn taw ni ydyn nhw (hynny yw, cawson nhw eu integreiddio i mewn i'r cymdeithas Celtaidd). Mae'n debyg y dysgon nhw iaith y mewnfudwyr am yr un reswm dysgodd pobl Cymru'r iaith Saesneg: er mwyn masnachu â phobl oedd wedi cipio'r tir gorau ac oedd ag arfau gwell. Doedd dim dewis 'da nhw, mewn geiriau eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Aelod Llipa » Sad 01 Chw 2003 6:48 pm

Cytunaf a'r ddau ohonoch (Nic a Di-angen), fod grwpiau o bobl wedi trigo ym Mhrydain cyn i'r Cymry gyrraedd yma, ond credaf fy mod yn gywir i ddwued mai'r Frythoneg, sef tarddiad yr hen Gymraeg, oedd yr iaith gyntaf i gael ei siarad ar hyd a lled Prydain 2000 o flynyddoedd yn ol, hyd at amser 'cymharol' fodern.
Dyw'r iaith Saesneg felly dim ond wedi cael ei siarad yng Nghymru ers 150 o flynyddoedd (dyddiau yw hyn mewn hanes).
Os yw bobl yn anghofio'r ffaith hwn, mae perygl i ni ddechrau meddwl mai'r Saesneg sydd wedi bodoli yma erioed, a tydw i ddim eisiau colli'r iaith fel ddigwyddodd mewn sawl gwlad gyfagos.
Mae angen i bob gwlad bwerus barchu ieithoedd lleiafrifol !

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Cardi Bach » Maw 04 Chw 2003 10:04 am

O safbwynt hanesyddol yr hyn sy'n cael ei drafod, yr hyn sy'n cael ei dderbyn erbyn hyn yw mai yr un bobl ydym ni o ran ein gwneithiriad genetaidd a'r rhai oedd yn byw yn yr ynysoedd yma cyn y chwyldro 'Celtaidd', hynny yw yn enetaidd ni yw brodorion ynysoedd Prydain ers 2000 cc OND yn ddiwylliannol Celtiaid ydym ni. Nid symudiad pobloedd oedd y mudo Celtaidd ond symudiad diwylliannol (er fod y Celtiaid, fel pobl wedi mudo hefyd - ond nid dyma oedd eu dylanwad mwyaf.). Mae'n rhaid deall hynny yn gyntaf. ( byddai'n ddiddorol gwneud arbrawf tebyg i'r hyn a wnaed i'r bbc gyda'r gyfres am y Feiciniaid dwy flynedd yn ol).

Yna mae'n rhaid deall fod Saesneg, efallai ddim yn ei ffurf bresennol, ond Saesneg yr un modd, wedi cael ei siarad yn y darn o dir yma a elwir yn Gymru ers y ddeuddegefed ganrif. Mae Saesneg felly yn iaith frodorol i Gymru. Gellir dadlau a ydi hi'n iaith 'legit' yma, gan iddi gael ei orfodi ar y boblogaeth, ond mae hi wedi datblygu i fod yn iaith ddosbarth werinol o Gymry, a hynny'n arbennig yn ystod y chwyldro diwydiannol.

Yr hyn y credaf i y mae'n rhaid i ni wneud yw derbyn ein bod ni yn byw mewn cenedl 'ddwy-ieithog' - er fod y canrhannau yn newid yn ddrastig o ardal i ardal gyda pa mor ddwy-ieithog yw'r gymdeiaths, ac er fod tua 80% yn uniaith Saesneg, MAE HI'n genedl ddwy-ieithog, a hynny wedi bod ers 900 mlynedd. Mae'n rhaid i ni wedyn barchu y ddwy ochr - ond mae'n rhaid i' gwleidyddion dyfu lan wrth ddadlau'r pwnc (llew smith a huw lewis [a.c. merthyr] yn enghreifftiau) a pheidio a chodi bwganod. beth sydd yn bod ar ddwy-ieithrwydd? - pam fod y gwleidyddion hyn yn ofni hynny gymaint? mae dwy-ieithrwydd yn fanteisiol ac yn creu cymdeithas mwy gwaraidd. mae hi hefyd yn gwneud cenedl yn fwy llewyrchus (yn ddiwylliannol ac yn ariannol) - Swisdir a Denmarc ee.

Ond gyda rhwbeth fel 'Phantom...', mae 'banter' o fewn chwaraeon yn naturiol - mae sarhau gyda'r bwriad o ddolurio ar y llaw arall yn beth gwahanol.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan ceribethlem » Maw 04 Chw 2003 5:44 pm

Cardi, 'ma'r sens mwya ti wedi siarad ers tro byd, chware teg i ti!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron