gan nicdafis » Maw 07 Tach 2006 5:45 pm
(Does dim profiad 'da fi o MMORPGs eraill, felly dim ond am WoW dw i'n gallu sôn...)
I symud dy gymeriad yn ei b/flaen, mae rhaid neud dy siar o redeg o gwmpas lladd pethau, ond mae sustem chwilfeydd (? quests) a proffesiynau'n golygu bod hyn yn llai diflas nag mae'n swnio, ac mae'n hollol bosibl i ti wneud mwy nag un tasg yn yr un ardal.
Er enghraifft, ar hun o bryd dw i'n chwarae rogue safon 48, sy hefyd yn arbennigwraig mewn blingo anifeiliaid, casglu perl lysiau, coginio pethau hyfryd, cymorth cyntaf a physgota. Mae pawb yn gallu wneud y tri pheth ola yna, ond gyda'r dau gyntaf mae rhaid dewis o restr o sgiliau marchnata a dim ond dau mas o'r chwech (?) ti'n gallu neud.
Felly, dw i hefyd yn chwarae rogue safon 15 (dw i'n hoffi rogues, beth alla i ddweud?) sy'n arbenigo mewn alcemi a gweithio gyda lleder. Ac mae un cymeriad arall 'da fi sy'n neud dim byd ond eistedd wrth y blwch post, aros i dderbyn pethau mae'r ddau rogue yn anfon ati hi, a'u gwerthu yn y ty ocsiwn.
Mewn unrhyw sesiwn ar WoW, bydda i'n newid rhwng y tri chymeriad yna, teithio o gwmpas, cyflawni chwilfeydd, lladd pethau ar hap, creu dognau hud, wneud arfwisg a'i werthu, pysgota am sbel i ddal pethau i goginio ac wedyn eu gwerthu, ac yn y blaen. Hen ddigon o amrywiaeth.
Mae hefyd yr elfyn o gymdeithasu - ar ôl sbel mae'n hanfodol i gydweithio gyda chwaraewyr eraill, a dw i newydd ymuno ag urdd (? guild) i helpu gyda hynny.
Os ti'n mynd am WoW, trial ymuno ar y gweinydd "Darkspear" (ddim yn siwr os ydy hyn dal yn bosibl) a galla i dy helpu ma's gyda cwpl o ffrîbîs.