Jamaica

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Jamaica

Postiogan Jeni Wine » Iau 12 Hyd 2006 8:30 am

Meddwl mynd i Jamaica cyn diwedd y flwyddyn.

Oes unrhyw un wedi bod? Oes gan unrhyw un awgrymiadau ynglyn a be i neud, lle i fynd? Oes angen hurio car, er enghraifft? Sut mae osgoi trwch y twristiaid?

jolch.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan CymroBach » Iau 12 Hyd 2006 9:32 am

Bues i yn Jamaica y flwyddyn diwethaf.

Dwi ddim yn moen newid dy feddwl am fynd achos mae'n le anhygoel, ond yn debyg iawn i lawer o ynysoedd arall y caribi fel Cuba a Dominica, mae'n well aros yn yr ardal lle mae'r gwesty a mwynhau'r tywydd. Os oes diwrnod allan yn cael ei hysbysebu - mae'r rhanfwyaf ohonyn nhw ar 'noticeboard' yn y gwestai - mae'n werth mynd ar un neu ddau. Ond paid a mynd wrth dy hun i lefydd fel Kingston, achos mae 'na rhai ardaloedd sydd dim yn rhy saff.

Wedi dweud hynny, mae yn werth mynd i Kingston ar daith sydd wedi trefnu achos mae'r marchnadau a'r bwyd sydd ar gael yn ffantastic.

Bydden ni ddim yn awgrymu teithio yn unigol o amgylch yr ynys. Ond dyw'r ardal twristiaeth ddim mor wael a llefydd Ewropeaidd, a mae teimlad llawer mwy hamddenol i'r lle. Doeddwn i ddim eisiau gadael ardal y gwesty llawer.

Gobeithio bod hyn o help.
Rhithffurf defnyddiwr
CymroBach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Mer 11 Hyd 2006 11:44 am
Lleoliad: Brynaman - Oer ond agos i'r nefoedd!!

Postiogan khmer hun » Iau 12 Hyd 2006 9:49 am

Cysyllta gyda'r wasg i holi Emrys Efans, awdur Fflamau Jamaica (gweler adolygiad Geraint Jarman o'r llyfr), dyn sy' wedi bod yno ddegau o weithie ac yn 'nabod lot o gerddorion lleol o Kingston. Fase fe'n gallu dweud wrtho ti pa lefydd sy'n saff a difyr ac ati.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron