Galway am benwythnos - y ffordd rhatach?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Galway am benwythnos - y ffordd rhatach?

Postiogan S.W. » Gwe 20 Hyd 2006 7:00 pm

Dwi awydd mynd i Galway o gwmpas mis Ebrill am benwythnos hefo'r wraig. Be ydy'r ffordd hawsaf a rhatach o gyrraedd yno?

Oes na unrhyw wefanau arbennig da ar gyfer flights rhad heblaw am Expedia?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Siliseibyn » Gwe 20 Hyd 2006 7:23 pm

Gofyn i Mici sydd ar y maes, mae o'n byw yno ar y funud ers ryw 2 fis.
Siliseibyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 63
Ymunwyd: Sad 03 Medi 2005 8:33 am

Postiogan Mici » Sad 21 Hyd 2006 4:49 pm

Su mai, dwnim am ffleits rhad yno, Gan fod maes awyr Galway yn fach mae'r wasanaeth yn reit wasgarog. Mae Aer Arran yn fflio o Manceinion a Caerdydd.

Mae awyrennau yn mynd bob diwrnod o Manceinion a dim ond ar ddydd Mawrth, Iau a Sadwrn o Gaerdydd. Mae na wasanaeth newydd yn dechrau o Southampton, Copenaghen a Cork ond di heini dau ddim byd i chdi :?

Yn syml y gynarach nei di fwcio fo y rhataf fydd y pris gan mai dim ond tua 55-60 mae awyren Aer Arran yn ddal ond ella fyddi di gorfod talu rhwng £80 a £100 y person beth bynnag.

Y ffordd rhataf o gyrraedd Galway ydi'r ffordd 'scenic' neu hiraf sef tren o Fangor i Gaergybi wedyn y gwch drosodd i Ddulyn a bws i Galway(Ma gwasanaeth tren yn warthus, bysus yn mynd bob awr) neith o ddim costio mond rhyw £40 y person i chdi i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan S.W. » Sul 22 Hyd 2006 8:44 am

Handi! Diolch am hynny. Mi wnai edrych i weld pryd gallai gael flight rhad o Fanceinion llu. Gan bod ni mond yn meddwl mynd am benwythnos hir perryg fydd taith bws ayyb yn cymryd gormod o amser.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Diogel » Mer 25 Hyd 2006 6:13 pm

Fe hedfanon ni o Fanceinion i Knock rhyw 2 flynedd nol.tacsi o0 Knock i'r ddinas wedyn. Dim yn cofio faint oedd e gan ein bod yn grwp o 45 ar penwythnos stag!!!Cer i'r Quays a'r Kings Head.Cerddoriaeth byw lan star yn y Quays yn anhygoel.
DIOGEL - Cwmni diogelwch Cymraeg ar gyfer sioeau, gigiau a chyngherddau.
http://www.diogel.org.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Diogel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Maw 20 Meh 2006 12:49 pm
Lleoliad: Goginan


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron