Newydd darllen stori ar wefan y BBC am argae (barrage) rhwng Weston Super Mare a Chaerdydd.
Fydd hwn yn cynhyrchu, yn ol y stori, gymaint o drydan a dwy gorsaf niwclear ac yn gwneud hynny am 150 mlynedd. Bydd y trydan yn llygru dim wrth cynhyrchu, sydd yn hwb i geisio lleihau ein allbwn o garbon a nwyon eraill. Yr unig broblem ellai feddwl am yw bod yr argae yn rhwystr i lawer o anifeiliaid sy'n mudo rhwng y mor a'r afon a'r broblem ecolegol gall hyn ei greu.