dwyfilasaith a ddywedodd:o's na bobol arall sy'n skypo? wi'n gweld o dan tools bo chi'n gallu newid yr iaith ond yn anffodus sdim sôn am y gymrâg wrth gwrs Drwg / Crac iawn ond wi'n gweld fyd bo chi'n gallu load ac edit skype language file hynny yw teipo mewn be chi moyn i fe weud.
so mewn theori gewch chi lanw pob blwch da geire cymrâg ac o ganlyniad fydde skype cymrâg da chi erbyn y diwedd! grêt medde chi Wrth fy modd ond peth yw ma like dros 2000 o ddarne o destun i gyfieithu, felly ar ôl y 700 fi di neud fi di câl llond bola. (700 o gamgyfieithiade siŵr o fod achos sain gyfieithydd o bellffordd)
so on i am ffindo mas os odd na rywun arall da ragor o mynedd na fi sy ishws di cyfieithu'r cyfan a sy'n gallu rhannu'r ffeil er mwyn i bawb skypo'n gymrâg?
braf gweld bod pobl yn mynd ati i gyfieithu pethe fel hwn. mae cyfrif skype gen i. dw i ddim yn ei ddefnyddio o gwbl ar hyn o bryd ond galla i weld fi'n neud yn y dyfodol (yn enwedig pan fydd modd cael rhif ffôn skypeIn gyda cod yng nghymru). mae carwynft wrthi yn ei gyfieithu hefyd yn ôl ei neges uchod. beth am i carwyn a dwyfilasaith rannu faint chi di neud eisoes, falle galle unrhyw un sy'n awyddus i helpu wneud tamaid mwy o waith cyfieithu? fyswn i'n fodlon helpu.