Sgidia rhedeg

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Sgidia rhedeg

Postiogan Chwadan » Iau 09 Tach 2006 9:47 am

Ddim yn siwr lle i roi hwn, ond ta waeth. Dwi di dechra loncian ac wrth deimlo fy esgyrn yn jarrio a'r blistyrs yn tyfu bore ma, dwi di sylweddoli fod rhaid i fi gal sgidia newydd cyn gynted a phosib. Es i fewn i ryw siopa chwaraeon ddoe a weles i ddim byd ond sgidia chavvy yno.

Dwi'n hollol ddiglem am y petha ma a dwi'm isio ymddangos yn hollol ddwl pan ai fewn i siop - felly sut sgidia sy'n rhesymol a sy'n addas ar gyfer rhedeg ar ffyrdd? Am pa eiria ddylswn i chwilio yn y disgrifiad o'r sgidia? Lle gai nhw?

Thenciw :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Sgidia rhedeg

Postiogan Iesu Nicky Grist » Iau 09 Tach 2006 10:10 am

Chwadan a ddywedodd:Am pa eiria ddylswn i chwilio yn y disgrifiad o'r sgidia?


Par o ddaps :D
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Dwlwen » Iau 09 Tach 2006 10:17 am

Sai erioed 'di bod mewn 'na, ond ma 'na siop stwffach rhedeg gyferbyn â'r orsaf yng Nghaerdydd (drws nesa i fwyty'r Thai Empire.)
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Darth Sgonsan » Iau 09 Tach 2006 12:50 pm

elli di'm curo New Balance, lawr i hannar pris yn JJB.
well ti redag ar gae hefyd - caeau Pontcana yn le iawn am lonc
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 09 Tach 2006 12:55 pm

O Sweatshop gesh i fy rhai New Balance i (wedi defnyddio 4 gwaith...)

Enw anffodus braidd ar siop i feddwl fod y sgidia probabli gyd yn cael eu gwnio at eu gilydd gan blantos bach dall, sydd prin yn gallu dal nodwydd am fod eu bysidd yn frith o greithia llithiradau efo'r peiriant ar ôl gweithio mewn selar dywyll glos. :ofn:
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Sgidia rhedeg

Postiogan huwwaters » Iau 09 Tach 2006 1:01 pm

Chwadan a ddywedodd:Ddim yn siwr lle i roi hwn, ond ta waeth. Dwi di dechra loncian ac wrth deimlo fy esgyrn yn jarrio a'r blistyrs yn tyfu bore ma, dwi di sylweddoli fod rhaid i fi gal sgidia newydd cyn gynted a phosib. Es i fewn i ryw siopa chwaraeon ddoe a weles i ddim byd ond sgidia chavvy yno.

Dwi'n hollol ddiglem am y petha ma a dwi'm isio ymddangos yn hollol ddwl pan ai fewn i siop - felly sut sgidia sy'n rhesymol a sy'n addas ar gyfer rhedeg ar ffyrdd? Am pa eiria ddylswn i chwilio yn y disgrifiad o'r sgidia? Lle gai nhw?

Thenciw :D


Tria fynd am rhai gyda gwadn reit trwchus, ac efo'r indent rhwng y sawdl a blaen y droed, felly bod modd plygu'r esgid yn hawdd.

Fedri di gael unrhyw math o dreinyrs, ond ma Asics a New Balance fel cwmnioedd yn arbennigo mewn creu sgidie rhedeg.

Dwi efo par o rai New Balance, ges i am £25 o JJB. Dwi'n meddwl bod gynnon nhw nifer o gynigion arbennig ar y sgidie ma.

http://www.newbalance.co.uk/
http://www.asics.co.uk/
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan huwwaters » Iau 09 Tach 2006 1:08 pm

Dwi di dechra loncian ac wrth deimlo fy esgyrn yn jarrio a'r blistyrs yn tyfu bore ma, dwi di sylweddoli fod rhaid i fi gal sgidia newydd cyn gynted a phosib.


Ffindia ffrind sy'n rhedeg eisoes i weld os wyt ti'n gneud rwbeth na ddylet neud wrth redeg. I.e. heb y ffurf cywir.

Hefyd, os wyt ti'n newydd mi wneith gymeryd dipyn o amser a dipyn o orffwys dim yn unig oherwydd dy ffitrwydd ond i adeiladu stamina a chyfanrwydd dy joints.

Enw anffodus braidd ar siop i feddwl fod y sgidia probabli gyd yn cael eu gwnio at eu gilydd gan blantos bach dall, sydd prin yn gallu dal nodwydd am fod eu bysidd yn frith o greithia llithiradau efo'r peiriant ar ôl gweithio mewn selar dywyll glos.


Dwi'n meddwl bod New Balance yn gwmni reit dda o fod yn deg. Dwi'n ymwybodol bod ganddynt ffatrioedd yn Lloegr, o gwmas Wigan dwi'n meddwl.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Sgidia rhedeg

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 09 Tach 2006 1:49 pm

Chwadan a ddywedodd: Es i fewn i ryw siopa chwaraeon ddoe a weles i ddim byd ond sgidia chavvy yno.
Thenciw :D


Beth bynnag ti'n gwneud, peidia mynd agos i siop JJB Sports i prynu sgidiau rhedeg. 'Dir dewis yna ddim ar gyfer rhedeg.

Y peth gorau ti wneud i mynd i siop sy'n arbenigo mewn rhedeg. Mi fedri di mynd ar y we ond buaswn yn cynghori i ti beidio gwneud hynny. Mae'n well bod ti'n mynd i'r siop i drio par arnodd,ac i weld os ti'n gyfforddus gyda nhw. Yn Run and Become yma yng Nghaerdydd mae nhw'n gwneud i ti redeg lawr y lon i weld sut wyt yn rhedeg cyn cynghori pa bar di'r gorau i ti.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Chwadan » Iau 09 Tach 2006 2:34 pm

huwwaters a ddywedodd:
Dwi di dechra loncian ac wrth deimlo fy esgyrn yn jarrio a'r blistyrs yn tyfu bore ma, dwi di sylweddoli fod rhaid i fi gal sgidia newydd cyn gynted a phosib.


Ffindia ffrind sy'n rhedeg eisoes i weld os wyt ti'n gneud rwbeth na ddylet neud wrth redeg. I.e. heb y ffurf cywir.

Hmm, dwi'n meddwl mai'r broblem ydi'r ffaith fod fy sgidia presennol yn gywilyddus o hen a batyrd. O'r diwedd daeth yn amser prynu sgidia dwi angen yn hytrach na rhai del.

Diolch yn fawr i bawb am y tips...fi fydd yr un goch a chwyslyd yn sbrintio (not) o gwmpas Caerdydd mewn sgidia fflash.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Norman » Iau 09 Tach 2006 9:28 pm

Dwina di clywed petha da am New Balance, a Asics hefyd - trainers rhedeg go iawn ! - dim y lol nike a adidas ma sydd yn trio siwtio pob achlysur.
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron