Golygfeydd Gorau Cymru

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Golygfeydd Gorau Cymru

Postiogan Gwyn » Llun 20 Tach 2006 2:40 pm

Gyda gwlad mor hardd i grwydro o'i chwmpas, o'n i'n meddwl bydde'n werth ffindo mas beth yw hoff olygfeydd gweddill y maeswyr. Er bo fi heb feddwl yn ddwys am y peth, i fi, ma na ambell i fan sy'n dod i'r meddwl yn syth.

Yn gynta, y ffordd o Llanidloes i Machynlleth (ffordd fynyddig iawn)... wrth i chi ddod i ben y mynydd, jyst cyn dachre'r daith lawr tuag at Mach, ma da chi olygfa anhygoel o Cadair Idris, Eryri a dyffryn yr afon Dyfi. Gwerth ei gweld.

Yn ail, yr olygfa o nghartre gwreiddiol i yn Ffair Rhos, gyda Cors Caron a tua 20 milltir o dirlun gwastad o'ch blaen a mynyddoedd hardd ar y ddwy ochr.

Yn drydydd, bach yn od falle, ond dal itha impressive, yw'r olygfa wrth gyrraedd Aberystwyth o'r gogledd, wrth gychwyn lawr rhiw penglais. Oes rhywun yn gallu meddwl am well 'cyflwyniad' i dref/dinas/pentre yng Nghymru?!

Rhywun yn cytuno da fi ar unrhyw rai o'r uchod, neu oes da chi awgrymiade gwell?
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Re: Golygfeydd Gorau Cymru

Postiogan sian » Llun 20 Tach 2006 3:45 pm

Gwyn a ddywedodd:Yn drydydd, bach yn od falle, ond dal itha impressive, yw'r olygfa wrth gyrraedd Aberystwyth o'r gogledd, wrth gychwyn lawr rhiw penglais. Oes rhywun yn gallu meddwl am well 'cyflwyniad' i dref/dinas/pentre yng Nghymru?!


Dim yn od o gwbwl - dyna un o'n hoff olygfeydd i - pan fydda i'n gyfoethog dw i'n mynd i gael rhywun i'w pheintio hi i fi.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan jammyjames60 » Llun 20 Tach 2006 4:20 pm

Un o'm hoff golygfeydd i yw'r panormaic view o ardal Eifionydd ar ben y Cnicht ac aber Malddach ar y cynefin:

http://static.flickr.com/100/282560192_66492e3ce1.jpg

Mae Cnicht yn anhygoel hefyd, mae pawb yn ei alw'n 'Zermatt Cymru' :)
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan S.W. » Maw 21 Tach 2006 11:25 am

Yr olygfa o Tal y Llyn (dwin meddwl dyna ydy o) wrth yrru lawr o Ddolgellau am gyfeiriad Mach heibio Cadair Idris.

Cytuno a ti Gwyn am yr olygfa wrth ddod fewn I Aber o'r Gogledd, croeso gwych i'r dre.

Dwin hoffi'r olygfa wrth edrych ar Fryniau Clwyd o Ddyffryn Clwyd ar ddiwrnod praf a vice-versa. Pan heb fod adre yn Nyffryn Clwyd ers ychydig oedd dreifio i fewn i'r Dyffryn o gyfeiriad Sir y Fflint a Lloegr, trio i fyny am Moel Famau a gweld y Dyffryn, o Rhuthun i Ddinbych a mor bell a'r mor yn Rhyl wastad yn deimlad gwych.

Hoff iawn o Fwlch yr Oernant hefyd rhwng Rhuthun a Llangollen.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Ger Rhys » Iau 23 Tach 2006 8:14 pm

S.W. a ddywedodd:Yr olygfa o Tal y Llyn (dwin meddwl dyna ydy o) wrth yrru lawr o Ddolgellau am gyfeiriad Mach heibio Cadair Idris.


Ai, diawch o olygfa godidog a Phulpud y Cythrel uwchben y ffordd.

Mae na olygfa bendigedig hefyd o gopa'r Moel Offrwm uwchben Llanfachreth yn sbio lawr y Fawddach ac i fyny am y Wyddfa a Chader Idris yn llenwi'r llun wrth edrych tua'r De.

Lle arall sydd efo golygfeydd bendigedig ydy Islawrdre, llynoedd y Cregennan a Phared y Cefn Hir ar droed Tyrrau Mawr.
Dilyn hynt y cerrynt caeth
mae deilen fy modolaeth...
Rhithffurf defnyddiwr
Ger Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Llun 20 Meh 2005 12:59 pm
Lleoliad: Ar daith rhwng Dolgellau ac Aber

Postiogan Positif80 » Iau 23 Tach 2006 8:22 pm

Rhyl trwy rear view mirror.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Chwadan » Iau 23 Tach 2006 8:26 pm

Ger Rhys a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Yr olygfa o Tal y Llyn (dwin meddwl dyna ydy o) wrth yrru lawr o Ddolgellau am gyfeiriad Mach heibio Cadair Idris.


Ai, diawch o olygfa godidog a Phulpud y Cythrel uwchben y ffordd.

Mae na olygfa bendigedig hefyd o gopa'r Moel Offrwm uwchben Llanfachreth yn sbio lawr y Fawddach ac i fyny am y Wyddfa a Chader Idris yn llenwi'r llun wrth edrych tua'r De.

Lle arall sydd efo golygfeydd bendigedig ydy Islawrdre, llynoedd y Cregennan a Phared y Cefn Hir ar droed Tyrrau Mawr.

Ategaf. S'na nunlle gwell na chopa'r Pared. Wir yr rwan.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Golygfeydd Gorau Cymru

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Iau 23 Tach 2006 8:58 pm

Gwyn a ddywedodd:Yn gynta, y ffordd o Llanidloes i Machynlleth (ffordd fynyddig iawn)... wrth i chi ddod i ben y mynydd, jyst cyn dachre'r daith lawr tuag at Mach, ma da chi olygfa anhygoel o Cadair Idris, Eryri a dyffryn yr afon Dyfi. Gwerth ei gweld.


Ydi, bendigedig. Ac mae pwynt "hanner ffordd" rhwng fama ac adra rhywle ar ei hyd hefyd 8)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Iau 23 Tach 2006 9:14 pm

fy hoff olygfa i heb os ydy'r olygfa o tu allan i'r angylsi'n gaernarfon draw om ynys mon
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan garynysmon » Iau 23 Tach 2006 10:17 pm

Mae'r olygfa o Eryri o Dde Ynys Mon, ond yn enwedig Malltraeth/Niwbwrch yn neis.

Os gewch chi byth gyfle, dringwch i dop uchaf Felin Llynnon, Llanddeusant. Mae'r golygfeydd yn odidog ar ddiwrnod braf.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron