1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Y ddau, gobeithio. (Ond yr ail, yn anffodus.)
2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
8 mlynedd, 8 mis, 23 dydd. Hyd yn hyn.
3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Fy mhartner, Philippa.
4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Nag oes, ddim yn rhannu chwaeth mewn cerddoriaeth. Yr unig peth byddai'r ddau ohonon ni wrth ein boddau gyda fe byddai rhywbeth fel Mozart. Mae hi'n eitha lico Van der Graaf erbyn hyn, chwarae teg.
5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
<a href="http://satyriasis.org.uk/SW/songs/jackie.shtml">Jackie, fersiwn Scott Walker</a>.
Hmm, newydd ffeindio geiriau i <a href="http://www.sigitas.com/artist_d/divine_comedy_the_lyrics/jackie_lyrics.html">fersiwn The Divine Comedy</a> - ydy e'n wir yn newid llinell:
Scott a ddywedodd:And I would become all-knowing, my beard so very long and flowing
i
Neil a ddywedodd:And I would become all-knowing, My bits are very long and flowing...
Oes copi 'da rhywun?