Ar bererindod drwy'r rhithfro des i ar draws achau Rhys Llwyd, lle mae'n datgelu ei fod o'n perthyn i res o Brotestaniaid enwog a ddenodd lid Mari Waedlyd. Wel, llongyfarchiadau! Petai un o fy nheulu wedi cael ei ladd gan Fari Weadlyd mae'n debyg y byddai wedi yfed un yn ormod.
Ond mi wnaeth un peth ddal fy llygaid, sef Rhys Llwyd yn son am "gredentials Protestannaidd fy ngwaed". Ai'r awgrym fan hyn ydi bod crefydd yn rywbeth sy'n cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth? Onid yw rhai pobol yn fwy tebygol o ddod yn Gristnogion, nid o reidrwydd oherwydd eu bod nhw'n cario ryw fath o 'genyn grefyddol' ond oherwydd y diwylliant mae nhw'n byw ynddi, cred eu rheini, ayyb?
Os felly rhaid derbyn nad oes gan pawb yr un cyfle i fynd i'r nefoedd, a bod Duw yn ffafrio rhai dros eraill?