CORRACH a ddywedodd:Welis i noson nos wener ddwytha efo Tudur Owen a Ffarmwr Ffowc. Roedd y lle llawn pobl canol oed rili, so dwim yn siwr at bwy mae'r act's ma fod i apelio. Mi oedd Tudur Owen reit ddoniol ac yn dod fyny fo dipyn o betha gwreiddiol heb fynd dros y top efo'r "dwinpissedoff-gwranda-arnafinrantio". Ac maen syndod pam bod y gair "nicyrs" yn gwneud i hen ferchaid chwerthin bob tro mae boi di gwisgo fel ffarmwr yn ei ddeud o. Yn anffodus.
Noson iawn oedd hi, ond mae'n anodd dianc rhag yr agwedd "noson lawen", mae'r ddau gomedian uchod wedi cael sylw trwy'r rhaglen neu S4C, felly fysa ti ddim yn deud bod nhw'n "gwthio ffiniau". dwin teimlo bod comedi Cymraeg, fel lot o bethau Cymraeg eraill yn "saff".
Dwi'n meddwl fod lot mwy o bobl yn gomedians "go iawn" fel ma Sbecs yn eu galw, jyst nad ydyn nhw yn mynd ati i berfformio'n gyhoeddus. mae eraill yn perfformio, ond dydi'r sioeau ddim i weld yn eang eu hapel, efallai ddim yn cael eu hybu digon ymysg y gynulleidfa ieuengach.
Ond ar y llaw arall, hwyrach mai rhywbeth gyda natur hiwmor Cymraeg sydd yn anodd i'w gyfieithu mewn i 'stand-up'. Mi es i noson stand-yp Cymraeg rhai misoedd yn ol. Dwi'n cofio son amdano fo i ferch Cymraeg iaith gyntaf yn gwaith a dyma hi'n rhoi wfft i'r syniad gan meddwl mai rhywbeth fel Noson Lawen bydd o.
Dwi'n credu bod dweud Cymru Cymraeg ddim yn gallu gwneud 'stand-yp', fel dweud bod yr Almaenwyr chwaith ddim yn gallu gwneud 'stand-yp'. Nid achos bod ni ddim yn gallu gwneud ond achos dio ddim yn rhan o'r diwylliant