Madrwyddygryf a ddywedodd:Dwi'n credu bod dweud Cymru Cymraeg ddim yn gallu gwneud 'stand-yp', fel dweud bod yr Almaenwyr chwaith ddim yn gallu gwneud 'stand-yp'. Nid achos bod ni ddim yn gallu gwneud ond achos dio ddim yn rhan o'r diwylliant
Dwn i'm am hyn. Be am hosts nosweithia llawen (nid jysd ar y teledu)? Dwi ddim yn eu gweld nhw yn ddoniol ond ma nhw yn stand-yp dydi? Ella bod ni (Cymry Cymraeg) yn rhy boleit i hecklo comedians pan ma nhw mor amlwg yn rybish, a hyd yn oed chwerthin er nad yda ni yn
teimlo fel gwneud. Y chances ydi fod rhan fwyaf o unrhyw gynulleidfa mewn noson lawen (eto, nid jysd cyfeirio at y raglen deledu ydw i) yn ei nabod y cradur ac felly yn teimlo 'baich' i o leia giglo ar y jôc fwyaf cachlud.
Ond o ran comediwyr doniol. Oni mewn noson stand-yp Cymraeg yn y Glee Club Caerdydd flwyddyn ddiwetha, wedi ei threfnu gan Gyngor Gwynedd (!!!) a nesi chwerthin yn wirioneddol trwy ddwy set Tudur Owen a mi odd un Bedwyr Rees (ex cyflwynydd Uned 5) yn dda iawn hefyd. A mi odd y ddau hefo set ar ddechra'r noson - cyn i fi yfed digon i amharu ar yn hiwmor i.
Odd Ffarmwr Ffowc (odd yn cloi y noson) yn crap, Noson Lawen (Teledu!) ydi ei le o a dodd y dynwaredwr (fo off c'nex, dwi'm yn cofio ei enw) fawr gwell. Odd Dyff Pobl y Cwm yn cyflwyno fel Bownsar ond rodd o yn tu hwnt o crap.
Tudur Owen a Bedwyr Rees yn dda!