1. Creision ŷd - p’un yw’r gorau?
Bron byth yn eu bwyta nhw, ond mi ddyweda'i coco-pops gan ei fod o'n gwneud y llefrith yn neis
2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Ysgytlaeth siocled Marks.
3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
Dwr, siwgr, lliw, carbon a caffin (weithiau blas ceirios, lemwn, laim)
4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Powlenaid o saws bara efo pupur du fydd te weithiau.
5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?
Heb gael dim byd heddiw hyd yma - mynd am ginio rwan. Neithiwr ges i salad drud o M&S (godamia - dyna'r adduned i atal rhag gwario'n wirion ar fwyd bob dydd wedi ei thorri).