Chwadan a ddywedodd:Dwi'm yn dallt Bebo. Ymddengys ei fod yn orfodol i bob merch ddefnyddio ffont semi-Groegaidd a rhoi symbolau od fel ~~~**@@@ o gwmpas eu henwau er mwyn eu cuddio. Yna rhaid teipio fel petai arnoch atal dweud a mynegi pob "th" fel "f", fel petai gennych lifp. Dydi'r albyms llunia byth yn gweithio, mae o'n chavaidd ac mae o'n ffiaidd. Da chi byth yn gallu gweithio allan pwy di neb arno fo achos fod na ryw gefndir amryliw yn cuddio'r sgwennu i gyd. Mae o ar gyfer pobl sy'n mynd drwy identity crisis ac sydd isio cuddio petha amdanyn nhw'u hunain (e.e. eu henwau) tra hefyd yn mynd i fanlydeb mawr wrth drafod yn eu proffeiliau mor wych ydi'u bywydau carwriaethol, lifpaidd.
Dwi ar facebook ddo.
Oi. Dwin ferch a tydwi ddim yn un o'r chavs. Oes, mana chavs arna fo (yn ei miloedd) ond mana hwyl i'w gael yna hefyd. Sawl awr dwi di treulio yn tynnu llunia del a gwych i bobl. Dwi methu treuluio oriau ar facebook, jesd piciad yna i weld beth syn digwdd. Dwin rhoi fy lluniau fyny ar bebo, ond mond i'r bobl dwl sydd methu ffindio fy flickr er mai dyna yw rhan o fy enw msn
Mi roi rhai newydd fyny ar facebook hefyd mashwr.
Dwin mynd i chwilio amdanat ti ar bebo wan, jesd i dy sbeitio di
(gin i looot o amser ar fy nwylo)