Skype - Ffonio dros y we

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan jammyjames60 » Sul 05 Tach 2006 10:43 pm

Dwi'n cael problemau efo sefydlu fy meicroffon hefo fo.

Mae gen i we-camera sydd efo meicroffon mewnol ynddo fo, yn lle meicroffon sydd arwahan, felly mentrais defnyddio' camera fel yr 'audio device'

Ffidlais i efo'r opsiynau i fentro rhoi'r camera fel yr audio device one yr unig opsiwn dwi'n cael ydi 'Windows default device.' Dydw i ddim rhy sicr beth yw fy default audio device ar fy nghyfrifiadur! Oes rhywun yn gwybod lle allai ddod o hyd i'r ateb, a sut allai newid y camera fel y default device ma?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan Nanog » Mer 08 Tach 2006 7:13 pm

Dafydd ab Iago a ddywedodd:Oes rhestr o bobl sy eisiau siarad Cymraeg ac yn defnyddio skype?


Mae'n bosibl i ti chwilio am bobl sy'n siarad rhyw iaith arbenning ee Cymraeg. Y tro diwethaf i mi chwilio rhai misoedd yn ol, roedd llawn dwrned o Gymru Cymraeg arno. Efalle fod yna fwy erbyn hyn?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan marnanel » Mer 08 Tach 2006 8:02 pm

(gyda llaw, dw i'n chwilio am tiwtor sy'n defnyddio skype ayyb, achos dw i'n byw yn America nawr.)
"rwyt ti'n gyrru fel Philadelphian"
Rhithffurf defnyddiwr
marnanel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Mer 17 Rhag 2003 5:37 am

Skype Cymraeg

Postiogan Carwynft » Sul 10 Rhag 2006 10:41 pm

Helo bawb, Dwi yn ganol cyfieuthu skype ir gymraeg. Oes yna rhywyn eisiau golwg ar y rhaglen.

ynrhyw ddiddordeb?

Mi wnai yrru fo i chi drwy ebost.
Carwynft
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sul 10 Rhag 2006 10:33 pm
Lleoliad: Chwilog

Re: Skype Cymraeg

Postiogan Rhys » Llun 11 Rhag 2006 11:28 am

Carwynft a ddywedodd:Helo bawb, Dwi yn ganol cyfieuthu skype ir gymraeg. Oes yna rhywyn eisiau golwg ar y rhaglen.

ynrhyw ddiddordeb?


Synaid gwych. Dwi'n gobiethio defnyddio Skype yn y flwyddyn newydd pan fydd band llydan yn y tŷ. Ydi Skype wedi dweud yn bendant byddant yn defnyddio'r cyfieithiad? Mi wnai gyfieithu pwt ohono os ydi o'n lot o owaith. Nai anfon NP gyda'm cyfeiriad e-bost.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dafydd ab Iago » Maw 12 Rhag 2006 9:16 pm

marnanel a ddywedodd:(gyda llaw, dw i'n chwilio am tiwtor sy'n defnyddio skype ayyb, achos dw i'n byw yn America nawr.)


pwy sy eisiau sgwrsio ar skype? Fy 'rhif' yw dafydd999 - dwi ddim yn defnyddio skype yn aml ond liciwn ymarfer fy nghymraeg!

dafydd
Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ab Iago
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 22 Meh 2006 3:38 pm
Lleoliad: Brwsel

Postiogan gronw » Llun 15 Ion 2007 10:42 pm

dwyfilasaith a ddywedodd:o's na bobol arall sy'n skypo? wi'n gweld o dan tools bo chi'n gallu newid yr iaith ond yn anffodus sdim sôn am y gymrâg wrth gwrs Drwg / Crac iawn ond wi'n gweld fyd bo chi'n gallu load ac edit skype language file hynny yw teipo mewn be chi moyn i fe weud.

so mewn theori gewch chi lanw pob blwch da geire cymrâg ac o ganlyniad fydde skype cymrâg da chi erbyn y diwedd! grêt medde chi Wrth fy modd ond peth yw ma like dros 2000 o ddarne o destun i gyfieithu, felly ar ôl y 700 fi di neud fi di câl llond bola. (700 o gamgyfieithiade siŵr o fod achos sain gyfieithydd o bellffordd)

so on i am ffindo mas os odd na rywun arall da ragor o mynedd na fi sy ishws di cyfieithu'r cyfan a sy'n gallu rhannu'r ffeil er mwyn i bawb skypo'n gymrâg?

braf gweld bod pobl yn mynd ati i gyfieithu pethe fel hwn. mae cyfrif skype gen i. dw i ddim yn ei ddefnyddio o gwbl ar hyn o bryd ond galla i weld fi'n neud yn y dyfodol (yn enwedig pan fydd modd cael rhif ffôn skypeIn gyda cod yng nghymru). mae carwynft wrthi yn ei gyfieithu hefyd yn ôl ei neges uchod. beth am i carwyn a dwyfilasaith rannu faint chi di neud eisoes, falle galle unrhyw un sy'n awyddus i helpu wneud tamaid mwy o waith cyfieithu? fyswn i'n fodlon helpu.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 15 Ion 2007 11:03 pm

Dwi'n defnyddio Skype i danfon negeseuon testun achos mae o bron hanner y pris i fy ffon symudol. Mae o reit handi achos dwi wedi trefnu bod Skype yn danfon unrhyw ymateb yn ol syth i'n ffon.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dwyfilasaith » Llun 15 Ion 2007 11:40 pm

beth am i carwyn a dwyfilasaith rannu faint chi di neud eisoes


ma'n un i'n rybish wir i chi. gallwn i lanlwytho fe os bydd rhywun yn dangos i fi shwd ond wi'n credu bydde fe'n well dechre ar y dechre. gyda rhywun sy'n gallu cyfieithu

Dwi'n defnyddio Skype i danfon negeseuon testun achos mae o bron hanner y pris i fy ffon symudol.


pryna ffôn newydd! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
dwyfilasaith
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Llun 01 Ion 2007 12:14 pm

Postiogan krustysnaks » Maw 16 Ion 2007 12:14 am

Dwi'n defnyddio skype hefyd ond dim ond nhad sy'n gontact gen i ar hyn o bryd. Mae'n rhaglen gret - bron dim delay ac mae'n hawdd iawn i'w ddefnyddio. Da ydyw.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

NôlNesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron