sneb yn berffeth hedd.
aelod o'r ddynol ryw wyt ti.
ma temtashynne yn bownd o ddod i'n rhan.
ond treial dysgu a dod dros y pethe hyn yw'r dasg a neud beth ti'n gallu, wirioneddol, i wella a gweithredu yn unol a galwedigaeth y Bod Mawr.
Fi'n meddwi'n dwll a'n neud reial nob o'n hunan. Fi'n gwbo bo fi, a fi'n gwbo bo fi am neud e to. Ond bydden i'n awgrymu mai pechod mwya meddwi yw'r amser sy'n cal ei wastraffu gyda'r hangofyr, achos yn aml yn fy medd-dod i am ffrindie y'n ni wedi ymhelathu fwya ar ein gwleidyddieth a wedi datblygu syniade a neud ffrindie a chyfrannu at fodolaeth mewn ffyrdd gwahanol. Ond ma ochr wael i feddwi sef yw y newid cymeriad, a ma hwnna yn wael ...
besicli, os wyt ti'n galw dy hunan yn Gristion ond ddim yn gweithredu fel un ac yn ymwybodol o hynny a ddim yn becso'r dam am hynny, wedyn dyw hwnna ddim yn arwydd da iawn
ond ti ddim.
ti yn pechu, ti'n twmlo'n euog, ti ishe maddeuant (ma ffyrdd gwahanol o ddatgan hyn heb orfod cosbi dy hunan gyda fflangell) a ti'n treial dysgu. Ti'n byw y gore ti'n gallu yn yr amgylchiade ti wedi cal dy roi ynddo. ti'n cyfrannu popeth o dy egni (fi'n gwbod) at ddynolieth a gwella bywyd dy gyd-ddyn.
so bydde i'n awgrymu bo ti fel fi, yn trial bod yn Gristion Da, ond ddim wastad yn llwyddo - ond bo ti'n dal i gredu.
sdic ati. gwella newn ni wrth bo ni'n eiddfedu...
odi hwnna'n swno'n deg?