Dw i'n cytuno gyda'r syniad o ryddid barn ac yn gyffredinol gyda'r syniad o ryddid ymadrodd, o safbwynt cyfreithiol. Hynny yw, fyddwn i ddim am ddeddfu yn erbyn coledddu unrhyw farn er mor hurt, gwrthun neu ddychrynllyd fo'r farn. Yn un peth, hyd yn oed petai'n ddymunol gwneud hynny, byddai'n amhosibl plismona'r fath beth.
Wrth symud o ryddid barn i ryddid ymadrodd, yn naturiol mae 'na wahaniaeth achos mae mynegiant yn weithred a all effeithio er da neu er drwg ar eraill, ac mae'n iawn, yn fy marn i, bod y wladwriaeth yn cyfyngu ar yr hyn y mae'n bosibl yn ôl y gyfraith inni ddweud yn gyhoeddus. Chaf i ddim sefyll ynghanol Caerdyddd a gweiddi: 'Lladdwch y basdads du 'na, ma nhw'n llygru'r hil Gymreig!'. Drwy fy ngeiriau, byddwn yn annog trosedd ddifrifol yn erbyn grwp o bobl. Dyw rhyddid ymadrodd ddim yn hawl absoliwt, fel mae Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn egluro.
http://www.opsi.gov.uk/ACTS/acts1998/80042--d.htm#sch1
Mae'n iawn hefyd bod yna gyfyngiadau ar weithredu yn unol â meddwl, cydwybod a chrefydd. Pwy yn ei iawn bwyll fyddai'n dadlau dros ollwg pob cyhuddiad yn erbyn bomiwyr y tiwb yn Llundain ar y sail eu bod ond yn dilyn eu crefydd (sef rhyfela yn erbyn yr anghredinwyr ar sail y Corân). Unwaith eto, mae'r Confensiwn yn delio â hyn (Erthygl 9). Does dim hawl absoliwt i weithredu yn ôl crefydd. Mewn gwladwriaeth seciwlar, mae hyd yn oed crefyddwyr yn ddarostyngedig i'r gyfraith.
Wrth gwrs, mae gan grefyddwyr fel unrhyw garfan arall o gymdeithas, yr hawl i bwyso ar wleidyddion i droi cymdeithas yn gymdeithas sy'n unol â'u credoau nhw - dyna yw democratiaeth - ond, a dyma sy'n gwylltio seciwlarwyr ffwndamentelaidd a gwrywgydwyr milwriaethus fel fi
, ddylen nhw ddim disgwyl i'w syniadau nhw, sy'n seiliedig ar ddim mwy na mythau ac ofergoeledd, gario mwy o bwysau na syniadau pobl eraill s'n dwyn tystiolaeth safadwy i'r ddadl.
Mae hollol abswrd bod gan grefydd o hyd le ffurfiol yn y wladwriaeth hon, gydag esgobion a chrefyddwyr eraill yn hawlio lle yn y Senedd, ar y sail eu bod yn grefyddwyr, bod yna eglwysi 'sefydledig' yn Lloegr a'r Alban, bod pennaeth y wladwriaeth hefyd yn ben yr eglwysi hyn, bod arian y trethdalwyr yn talu cyflogau athrawon i ddysgu'r mythau ac ofergeledd hyn i blant (o bawb!) mewn ysgolion crefyddol, bod crefydd yn gorfod cael ei ddysgu ym mhob ysgol, a bod cabledd yn erbyn rhai crefyddau yn drosedd. Rhowch 'train spotters' yn lle 'crefyddwyr', ac fe welwch mor wallgof yw'r sefyllfa.
Gwrthwynebu'r
breintiau arbennig sydd gan grefyddwyr ydw i. O gadw o fewn terfynau'r gyfraith, dylen nhw fod â'r un hawliau fel unigolion â phawb arall, ond dim mwy.
Felly, er bod hawl gyfreithiol gan babyddion ac anglicanwyr (a chrefyddwyr eraill swir o fod) i geisio dylanwadu ar y llywodraeth, dw i'n cwestiynu safiad moesol sy'n dweud y byddai'n well ganddynt beidio â helpu unrhyw blentyn a chau'r asiantaethau i lawr na bod yn rhwym o gynnig cyfle i gwpl hoyw fabwysiadu plentyn. Yma gwelwn beth sy'n wir bwysig i'r crefyddwyr. Lles plant? Yntau dogma?