Cysgod y Cryman

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Cysgod y Cryman

Postiogan Lali-pwpw » Iau 01 Chw 2007 11:14 pm

phwwaaar! esh i weld o heno a chwara teg odd on dda iawn! wir 'di mwynhau, ar boi stiwart watts na'n superb, (lot o giglo) er bo v rioed d clwad am dana fo o blaen! rwyn yn gwbod pwy dio?

cerwch i weld o'n theatr clwyd! Gwerth ei weld!
Lali-pwpw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Sad 27 Ion 2007 6:26 pm
Lleoliad: Mewn sanna yng nghefn y wordrob

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 01 Chw 2007 11:29 pm

Es inna hefyd, ac mi oedd o'n itha byth.

Cynhyrchiad yn sbot-on. Set yn sbondonics, fel arfer.

Yr addasiad? Gwneud yn dda iawn efo job anodd, a'r fformat yn gweithio'n dda - naratif Harri yn effeithiol, heb fod yn ormodol a newid yr holl beth. Ond doedd hi ddim yn ddrama yn ei hanfod ei hun - addasiad oedd o. Mi fasa osgoi hynny wedi bod yn amhosib am wn i.

Ella bod angen i ni rannu mwy o brofiad Harri wrth iddo fo gael ei argyhoeddi? Ches i 'mo fy ysgwyd.

Owen Arwyn yn wych, Dyfan Roberts 'chydig yn rhy werinaidd ond yn champion fel arall, Rala Rwdins yn gwd - pawb yn dda a deud y gwir. Braf gweld Ffion Rownd a Rownd yn ôl, heb ei gweld hi mewn dim byd ers sbel. [Ma'r frawddeg ola 'na'n agred i abiws os buodd 'na un erioed.]

Na, da iawn wir.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Lali-pwpw » Iau 01 Chw 2007 11:32 pm

hmm, cytuno yn llwyr. be odda tn feddwl o gastio'r merched? sw ni d swopio ambell un.

a odd christine pritchard n wych, llais anhygoel does!
Lali-pwpw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Sad 27 Ion 2007 6:26 pm
Lleoliad: Mewn sanna yng nghefn y wordrob

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 01 Chw 2007 11:39 pm

Swn i'n deud eu bod nhw'n iawn fel'na yn bersonol. Am hogan Trawscoed oeddat ti'n meddwl? 'Sat ti'n gallu dadla am wn i. Ella bod ffrog cariad Harri yn rhy grand ar y diwedd. Ac ella bod cardigan yn anaddas i hogan y fath fam ag oedd Christine Prtchard. Ond manylion 'di rheina.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan SerenSiwenna » Gwe 02 Chw 2007 10:17 am

Wnes i weld rhywbeth am hwn yn Golwg - rhywun yn gwybod pryd mae e'n dangos yn theatre clwyd?

Ai dyma'r tro cyntaf i Cysgod y Cryman cael ei addasu i'r theatre?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan sian » Gwe 02 Chw 2007 10:31 am

Dim ond am un noson yn ôl pob golwg:

Theatr Clwyd: 5 Mawrth 0845 330 3565 http://www.clwyd-theatr-cymru.co.uk/
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan canol llonydd distaw » Gwe 02 Chw 2007 11:22 am

Dyma'r addasiad llwyfan 1af. Mae 'na gyfweliad fan hyn gyda Sion Eirian yn trafod y her o'i haddasu.
Rhithffurf defnyddiwr
canol llonydd distaw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 33
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 10:38 am

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 02 Chw 2007 12:27 pm

Newydd fwcio tocyn i'w gweld yn Theatr Brycheiniog, gan fy mod yn gorfod gweithio pan mae hi'n lleol yn fan'yn. Bach o niwsans o ran fy nhaflen amser, ond profiad newydd ar y llaw arall! Edrych ymlaen ar ôl darllen yr uchod 8)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 04 Chw 2007 11:59 pm

O, a pheth arall - maen nhw'n deud 'tair mlynedd'. Ac yn ei ddeud o lot. Ar ôl ei gilydd. Sôn am deimlo fel taflu Mint Imperials!!
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan sian » Llun 05 Chw 2007 9:10 am

Wnes i ei mwynhau hi'n fawr.

Do'n i ddim yn siwr am gastio Gwylan.
Ac o'n i'n meddwl bod dau gymeriad Christine Pritchard yn rhy debyg i'w gilydd.

Mae busnes yr acen yn codi yma eto (gweler Cowbois + Injans) - mae 'na fwy i acen Powys na thaflu ambell i "ded" neu "bech" i mewn. Roedd Dyfan Roberts yn eitha argyhoeddiadol ond wnaeth neb arall lot o ymdrech - sy'n well na gwneud ymdrech a methu, am wn i.
Dw i'n cofio pan oedd y gyfres ar y teledu - Lleifior ? - wnaeth Elliw Haf ymdrech go iawn i feistroli'r acen - a llwyddo.

Ond, ar y cyfan, da iawn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai