Alun,
ni fuasai'r Parchedigion Martin Luther King, Jesse Jackson, Ralph Abernathy ayyb yn ystyried bod fawr o hawliau suful yn yr UDA cyn 70au'r ganrif 'DWYTHA.
Ni fyddai llawer yn Hollywood yn fodlon a'r hawliau dynol oedd ganddynt adeg McCarthy.
Na hoywon yn ystyried J Edgar Hoover a'r FBI yn gorff i amddiffyn eu hawliau hwy.
Wedi gweithgareddau'r 'Wobblies' yn y 20au, ni fuasai mewnfudwyr yn hoff o ymateb y sefydliad a'r effaith ar eu hawliau.
Nid yw trigolion Bae Guantanamo ag unryw hawl o gwbl.
Fe elwid rhai aelodau o'r dde eithaf gan aelodau o gabinet Papa Bush yn ynfydon - 'the Crazies'. Y nhw, sydd rwan fwyaf blaenllaw yng nghabinet Baby Bush.
Maent yn defnyddio 9/11/01 fel esgus i ddileu hawliau dynol.
Mae'r sefydliad yn UDA wastad wedi bod yn hyblyg yn eu cariad/atgasedd at hawliau dynol.
Be mae'r UDA wedi neud am ddau ganrif ydi ansefydlogi gwladwriaethau eraill. Mossadeq yn Iran ym 1953 i amddiffyn buddiannau cwmni Seisnig - BP, Iraq am ddau ddegawd a mwy, Afghanistan er mwyn adeiladu pibell olew ayyb, ayyb, ayyb...
Mae rhestr eithaf ANGhyflawn i'w gael ar dudalennau 92-101 o lyfr Meryl Wun Davies a Ziauddin Sardar 'Why Do People Hate America?', yn rhestr 'Zoltan Grossman's A Century of US Military Interventions from Wounded Knee to Afghanistan'. Mae llawer mwy o enghreifftiau y gwn amdanynt, nid yn unig yn America Lladin. ISBN 1-84046-383-X. Dyro fe yn dy Fasged!