Os gai ail gynnau ar y ddadl (unrhywbeth i osgoi gwaith) -
Mai dysgeidiaeth Iesu o droi'r foch arall yn gwbl gywir, ac byddaf yn ceisio gwneud hynny bob amser (er yn aml yn aflwyddiannus). Yn anffodus, mae na ddau flaw i hyn mewn byd practical - yn gyntaf, dyw pawb ddim yn Gristion, felly fe gewch chi'ch bwrw'n go aml. Ac yn ail, mae'n amhosibl defnyddio esiampl unigolyn mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.
Un o brif gyfrifoldebau arweinydd gwlad (punai yn unben neu wedi ei ethol) yw edrych ar ol eu bobl - amddiffyn eu bywyd, eu rhyddid, eu hawliau. I wneud hyn mae trais weithiau'n anochel.
Esiampl hypothetical - 3 gwlad. Gwlad A yn wlad bwerus gyda sefyllfa ffafriol i ehangu mewn grym (ee cyflenwad bwyd da, adnoddau naturiol).
Gwlad B hefyd yn wlad bwerus, ond heb sefyllfa ffafriol i ehangu ei grym.
Gwlad C yn wlad wan, ond gyda llawer o adnoddau naturiol.
I arweinydd gwlad B, mae Gwlad A i'w hofni, felly mae ganddo'r opsiwn o unai concro gwlad C, i gystadlu gyda A, neu llofnodi pact gyda gwlad C i amddiffyn ei hunain yn erbyn A.
Mae'r opsiwn gyntaf yn sicr yn anghyfiawn yng ngolwg poplogaeth C a gafodd ei concro, ond yn gyfiawn i arweinydd B, sydd wedi cymryd cam concrit i amddiffyn ei boblogaeth ef.
Dyna pam mae siarad am gyfiawnder a thrais yn miso'r pwynt yn gyfangwbl.
O ran heddwch a heddychiaeth...- Gellid galw'r ail opsiwn yn yr esiampl uchod yn 'llwyddiant' o bosib am fod B a C drwy ddiplomatyddiaeth(?) wedi osgoi rhyfel ai gilydd. Ond, eu pwrpas trwy wneud hyn oedd i greu balance of power rhyngddynt hwy ac A. Felly gwelir fod pwer (sy'n cynnwys y defnydd, neu'r bygythiad o drais) yn ganolog i hyd yn oed bolisiau sy'n llwyddo i osgoi trais.
Dyna pam, yn fy marn i, fod heddychiaeth yn gwbl annigonol i ddelio a'r byd sydd ohoni. Heb os fe fydd nifer ar y maes yn anghytuno a mi
o.n. ymddiheuriadau os yw'r esiampl yn simplistig, ond mae'n osgoi gorfod son am Hitler, ac hefyd yn osgoi'r ddelfryd 'them -bad; us - good'