gan Iwan Rhys » Maw 23 Ion 2007 9:51 am
Llongyfarchiade i bawb sy'n ymwneud â'r blogs yma.
Pan ddaeth y pôl piniwn cynta mas yn dangos bod cefnogaeth i annibyniaeth dros yr 20%, nes i ddim talu rhyw lawer o sylw. Ro'n i'n meddwl mai rhyw one-off bach dibwys oedd e, gan dybio nad oedden nhw wedi gofyn i ddigon o bobl, ac ati. Mae arolygon y Sefydliad yn Aberystwyth wedi bod yn dangos mai ogwmas 10-12% yw'r gwir ffigwr, ond nawr mae un arolwg ar ôl y llall yn dangos bod y gefnogaeth yn 20% neu'n uwch, a hynny pan nad oes gennym ni gyfryngau cenedlaethol yn gwthio trafodaeth ar yr agenda, a phan nad yw'n plaid genedlaethol ni'n gwneud popeth o fewn ei gallu i chwalu dadleuon celwyddgar Llafur am Brydeindod.
Gobeithio y bydd y ddau flog yma yn gwneud rhywfaint o'r gwaith y gallai cyfryngau cenedlaethol, a'n plaid genedlaethol, fod yn ei wneud, a phob lwc iddyn nhw.
Oes rhywun yn gwybod pa mor aml ma'r Sefydliad yn Aberystwyth yn gwneud arolwg, a phryd ma'r un nesa'n cael ei gyhoedi?
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.