Travelodge Belfast Central wedi bod yn ideal i mi. Mae Chimney Corner Hotel Glengormley yn neis hefyd os ti'm yn meindio aros ychydig tu allan y ddinas.
Easyjet o Lerpwl yn rhad iawn.
Diolch, Easyjet fyddai'r bet orau maen siwr. Hedfan allan dydd Mawrth a nol pnawn dydd Gwener dwin meddwl - yn anffodus mae dydd Gwener mymryn yn ddrytach nag dydd Iau.
Travelodge yn swnio'n ideal am break bach hefyd.
Diolch
Aethoch chi ar y teithiau ne o amgylch safleoedd pwysig o ran y Trafferthin ac ati - y Shankill, Fall Road, Carchar y Maze ayyb? Swn i wrth fy modd yn gweld y landmarks yma, a dwi'n dallt bod modd neud taith o'r ddinas i gyd iw gweld.
O reit, diolch am yr awgrym yne. Ydy'r tacsis ma'n ddrud?
Cefnder y wraig oedd di gwasanaethu allan ym Melffast pan oedd o yn y fyddin yn dweud bod lot o'r cwmniau tacsis yn cael eu rhedeg gan rai mudiadau parafilwrol yn y lle - difyr!
Mae Belfast International tua hanner awr o'r ddinas, tra bo George Best Airport yng nghanol y ddinas. Mae tacsis o bob ochr i'r ffens yn y ddinas, roedd yr un gafon ni oedd yn gwbwl ddi-duedd - roedd o'n casau pawb!