Mwstard cymreig i fi, ma fe’n lyyyyfli! Cwmni "The Welsh Mustard Company" o Gilau Aeron sy'n 'i 'neud e fi'n meddwl.
Ni’n mynd trwy jarie o’r stwff yn tŷ ni – ma cic eitha hegr gyda fe fel inglish, ond blas mwy melys (rhywbeth i neud â’r mêl sydd ynddo fe siŵr o fod). Mae e’n cael ei weini mewn amryw o lefydd bwyd yng Nghaerdydd erbyn hyn – lliw coch amlwg arno. Ma amryw o archfarchnadoedd yn gwerthu’r stwff erbyn hyn hefyd, a marchnadoedd sy’n gwerthu cynnyrch lleol ag ati. Iymi