Mae'n rhaid i mi gyfaddef, dwi wedi bod yn reit ragfarnllyd yn erbyn blogs ers erioed (sori bawb!). Mae'n well gennai bigo fflwff o fy motwm bol fy hun na darllen am brofiadau pobl eraill wrth bigo fflwff o'u ceudyllau corfforol eu hunain.
Ond wnes i 'ddarganfod' y Blogiadur y noson o'r blaen ac, er mawr syndod, mi oedd o'n reit ddifyr. Mae fy rhestr ffefrynau wedi cynyddu yn sylweddol dros y ddeuddydd dwytha!