Ydw, dw i ar bonanza *bwpio*.
Mae hyn yn digwydd trwy'r amser. Mae 'na sawl person sy'n, mae'n debyg, defnyddio'r botwm "Dyfynnu" yn awtomatig bob tro, yn lle'r botwm "Ymateb". Mae'n iawn mewn ebost, neu ar USENET, ond mae'n poen yn y pen-ôl ar negesfwrdd lle dych chi'n ymateb i'r neges flaenorol.
Cyn i ti ddyfynnu ar y maes, fodyn i dy hunan "oes angen dyfynnu o gwb?", ac os oes, "beth yw'r cyn-lleiad o'r neges wreiddiol alla i ddyfynnu heb golli sens fy ymateb?"
--
Flin 'da fi am yr holl *bwpio* -- sef, i'r rhai sy ddim yn gyfarwydd â'r term, modd i ddod ag edefyn sy wedi mynd i gysgu yn ôl i olau dydd, heb ychwanegu lot ato fe. Amser hyn o'r flwyddyn mae'n fwy pwysig byth ein bod ni'n cadw llygad ar bethau bychain Dewi Sant-aidd maes-e. Dw i'n gwybod bod y pethau 'ma yn edrych yn bitw, ond gofalu am bethau fel hyn yw rhan o'r rheswm mae maes-e dal yn werth darllen, yn fy marn i.
Gwd, diolch