Amserlen Annibyniaeth

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Amserlen Annibyniaeth

Postiogan aled g job » Sad 31 Maw 2007 12:25 pm

Da gweld yn Golwg yr wythnos hon fod Alun Ffred, ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon, yn awgrymu ei bod hi'n bryd creu amserlen ar gyfer annibyniaeth i Gymru. Hynny yw esbonio beth fyddai'r camau tuag at hynny a beth fyddai'r camau hynny yn ei olygu yn ymarferol.
O'r diwedd! dwi di credu ers hydia bod angen gwerthu annibyniaeth mewn modd llawer mwy cadarn a chadarnhaol. Bron nad ydi o wedi bod " the love that dare not speak it's name" ym meddylfryd y Blaid dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny nid yn unig wedi bod yn fel ar fysedd y wasg a'i gelynion gwleidyddol, ond wedi cyfleu'r argraff i'r etholwyr bod yna rhywbeth anonest a shifty iawn yn perthyn i'r blaid.
Mae angen tanlinellu realiti pethau fel ag y mae wrth gael ein rheoli o Lundain: lefelau GDP ymhlith yr isaf yn Ewrop, lefelau iechyd ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, diffyg buddsoddi affwysol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gor-ddibyniaeth enfawr ar y sector gyhoeddus, problemau tai fforddiadwy a digartrefedd,diffyg cyfranogiad go iawn mewn bywyd cyhoeddus, cael ein tynnu i mewn i ryfeloedd anghyfreithlon a gorfod bod yn rhan o wariant gwallgof o £50 biliwn er mwyn adnewyddu Trident,mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd.
Yna, mae angen dadlau'n eofn mai annibyniaeth fyddai'n gwella hynny drwy alluogi'r canlynol i ddigwydd dros gyfnod o amser:
e.e- rheolaeth dros ein dwr a'n holl adnoddau naturiol- datblygu Cymru fel arloeswr rhyngwladol mewn ynni gwyrdd
-Addasu'r system drethi er mwyn ffafrio cwmniau bychain teuluol
-Datblygu sgiliau entrepeneuraidd ymhlith plant o oed cynnar iawn er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu gweithlu fydd eisiau cychwyn busnesau eu hunain a llenwi'r gofod hwnnw sy'n bodoli yn y sector breifat yng Nghymru ar hyn o bryd
-Arbed arian wrth wario llai ar amddiffyn- Prydain yn gwario 2.5% o'i chylideb ar amddiffyn- siawns y galla ni ddilyn esiampl Iwerddon sydd mond yn gwario 0.7% o'i chyllideb ar amddiffyn. Yn gysylltiedig a hyn, bydd angen esbonio sut fath o lu amddiffyn fyddai'n datblygu yma.
-Datblygu marchnadoedd newydd gyda gwledydd bychain cyffelyb. E.E Mae'r SNP yn son am greu "The Arc of Prosperity" drwy gydweithio ag Iwerddon, Norwy, Gwlad yr Ia, a Denmarc, ac fe allai Cymru hefyd fod yn rhan o symudiad felly.

Mae'r dadleuon i gyd o'n plaid. Ond, wrth gwrs mae angen arweinydd charismataidd, cadarn ac eofn i'w cyflwyno. Pryd mae Adam Price yn dod nol o Lundain?
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron