blaidd drwg a ddywedodd:UKIP a BNP yn ddosbarth canol? Cymon...
Na! I'r gwrthwyneb rwy'n credu bod y BNP yn beryglys oherwydd eu bod yn Blaid sy'n apelio mwy i'r difreintiedig (i'r "dosbarth gweithiol" os mae dyna'r term yr wyt am ei ddefnyddio)
blaidd drwg a ddywedodd:Ond wedyn, debyg nad wyt ti wedi gwrando ar ddosbarth gweithiol Sir y Fflint yn ystod y dyddiau diwethaf hyn wrth ganfasio. Mae eu hiliaeth a'u rhagfarn yn dychryn rhywun, er mai lleiafrif ydynt. UKIP, dwi'm yn deud, ond maen nhw'n neidio ar ofnau Llafur a'r dosbarth so-called "gweithiol". Y BNP yn fwy felly, ac mae'n ddychryn. Be di'r ateb? Mae rhywun yn dweud y ffeithiau, ond pan nad ydy pobl yn eu derbyn, ac yn well ganddyn nhw wrando ar rants y Daily Mail a'u tebyg????
Yr wyf yn poeni am y posibilrwydd o weld aelod o'r BNP yn cael ei hethol i'r cynulliad oherwydd fy mod i'n ymwybodol o apêl neges ffiaidd y BNP i'r difreintiedig yn llefydd megis Parc Caia yn Wrecsam, Pen-rhys yn y Rhondda ac Ystâd Llaneirwg yng Nghaerdydd.
Rwy'n ansicr parthed yr ateb i'r broblem. Mae yna beryglon ynghlwm ag ymosod ar y BNP oherwydd bod pob ymosodiad yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r blaid yn ei sgil. Mae anwybyddu'r blaid yr un mor beryglus gan ei fod yn rhoi rhwydd hynt iddi ledaeni ei neges ffiaidd.
Mae unig obaith y BNP i wneud argraff yn yr etholiad yn ddibynnol ar bleidlais isel. Un o'r ffurf sicraf o sicrhau nad oes modd iddi lwyddo yw trwy sicrhau bod canran uchel o'r bobl yn pleidleisio yn yr etholiad trwy annog pawb i fwrw pleidlais.