Difynnaf o flog Vaughan Roderic (
http://www.bbc.co.uk/blogs/cymraeg/):
Dismissing claims on BBC Wales that Labour would go into coalition with Plaid Cymru after the Assembly elections on May 3rd, Secretary of State for Wales Peter Hain said:
"This is a trumped up story from BBC Wales.
"As I've made clear in the past, Labour Party members simply wouldn't wear a coalition with Plaid Cymru.
"The fact is that Plaid Cymru and their media sympathisers are desperate to divert attention from the real story which is the backdoor deal Plaid Cymru have done to put the Tories back in charge of Welsh schools and hospitals."
Yr awgrym clir oddiwrth Peter Hain yma ("trumped up story") yw fod Vaughan yn dweud celwydd. Mae e hefyd yn ceisio awgrymu nad yw Vaughan yn di-duedd ("media sympathisers"). Wrth gwrs mae'n e'n sylweddoli nad yw Vaughan mewn sefyllfa i amddiffyn ei hun - gan mae'n siwr fod yna amod yn y trafodaethau y mae wedi ei gael gyda'r aleodau blaenllaw o'r Blaid Lafur nad yw'n datgelu pwy sy wedi dweud be'.
Felly mae ganddom y dewis - credu Peter Hain a'r Blaid Lafur, neu credu'r BBC ...
Dyw hi ddi yn anodd deall pam fod y Blaid Lafur wedi ymosod mor chwyrn ar y stori yma. Mae ei hymgyrch wedi ei selio bron yn gyfangwbl ar yr honiad fod yna bosiblrwydd fod yna "Tory-led coalition" ar y ffordd. Mi roedd datganiad IWJ na fyddai Plaid Cymru yn fodlon fod mewn clymblaid o dan arweinyddiaeth y Toriaid yn ergyd drom eisoes i'r ddadl yma, ond bellach mae'r holl strategaeth ar chwal - ac mae'n nhw'n gwybod hynny. Dydy hel ofnau ddim yn mynd i weithio bellach. Mi fydd angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar ei pholisiau o hyn allan.