Llafur yn fodlon trafod â Phlaid Cymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llafur yn fodlon trafod â Phlaid Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 24 Ebr 2007 8:28 am

Linc

Dyma ddiddorol! Ond ydi hi'n wir?

Yn fy marn i, pe byddai hyn yn wir, yn hytrach na chynllun islaw o ryw naws gan y blaid Lafur, mae hi'n awgrymu'n gryf bod Llafur yn disgwyl cael crasfa go iawn yn ystod yr etholiad.

Beth dw i'n ei olygu gyda hynny ydi na fyddan nhw'n MEDRU ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol o ganlyniad i'w perfformiad trychinebus hwy, ac ymddengys mai Plaid sy'n elwa o'r chwâl Llafur.

Unrhyw sylwadau ar pam yn union mae hyn wedi cael ei ryddhau?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cymro13 » Maw 24 Ebr 2007 8:48 am

Mae'r Rhyddfydwyr yn amlwg wedi mynd yn really cocky - Cymryd yn ganiataol fyddant yn y Llywodraeth ac felly yn meddwl gallent ofynh am unrhywbeth gan y Blaid Lafur ond os yw Llafur yn dangos allent droi at Blaid arall fydd y Rhyddfrydwyr yn ceisio bargeinio ar dermau;r Blaid Lafur yn hytrach na'r ffordd arall rownd -

Gallent fod yn gwneud hyn i stopio unrhyw fath o bosibilrwydd o gydweithio rhwng y Toriaid a Phlaid Cymru neu'r Enfys Glymbleidiol.
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Mr Gasyth » Maw 24 Ebr 2007 8:51 am

Mae gymaint yn dibynnu ar pwy ddudodd be a beth yw eu cymhellion. Yn anffodus wrth gwrs, all VR a'i gydweithwyr ddim deud wrthan ni pwy nath.

Unai:

Mae Llafur mewn cymaint o bicil maent yn rhagweld na fydd cefnogaeth y DRh yn ddigon. bydd rhaid i Rhodri morgan ymddiswyddo a mae pobl 'genedlaetholgar' Llafur fel Carwyn Jones wedi dechrau gorfod meddwl am, a dadlau dros, glymblaid efo Plaid Cymru fel yr unig opsiwn posib.

neu

Mae'r Lib Dems wedi mynd mor cocky mae Llafur am ddangos iddynt nad ydyn nhw'n angenrheidiol ar ol Mai 3ydd. Ond mae'n anodd gweld pam fuasent yn gwneud hyn rwan yn hytrach nag ar ol Mai y 3ydd.

neu

Mae pethau'n mynd yn wael i Lafur a mae nhw am i'w cefnogwyr wybod hynny yn y gobaith y gwnan nhw ddod allan i bleidleisio er mwyn atal gorfod clymbleidio efo'r Nationalists ofnadwy na. Byddai bygwth cynghreirio efo'r Toriaid yn cael mwy o effaith, ond ddim yn gredadwy. Mae gwneud hyn hefyd yn rhoi'r cath ymysg colomenod Plaid Cymru, gan fod yr hanner o'i haelodaeth sydd ddim yn credu mai'r Ceidwadwyr yw byddin y diafol yn credu mai Llafur yw.

neu

Mae pethau'n mynd yn wael i Lafur a mae nhw'n credu mai'r Blaid sy'n elwa fwyaf o hynny. Ymgais felly i wasgu rhywfaint ar bleidlais y Blaid drwy symyd pleidleisiau gwrth-Lafur i'r Toriaid a'r Lib Dems. Mae noson dda i'r Blaid (yn hytrach nag i'r Ceidwadwyr) yn wael i Lafur achos (a) bydd eu llaw yn gyrfach mewn trafodaethau i sefydlu clymblaid efo Llafur, (b) os mai hwy yw'r ail blaid gallent ffurfio clymblaid a'r Toriaid gan adael Llafur allan o lywodraeth.


Os mai un o'r ddau olaf sydd, yna mae peryg iddo backfirio wrth gwrs, oherwydd drwy son am gytundeb efo Plaid Cymru mae Llafur yn cyfaddef nad ydyn nhw wir mor ddrwg a hynny. Gallai gyn arwain at floaters Llafur/Plaid yn mynd am y Blaid er mwyn cael gweld rhywfaint o newid.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan ceribethlem » Maw 24 Ebr 2007 9:00 am

Yn ol Radio Cymru bore 'ma, mae'r Dems Rhydd wedi bod yn myn yn llawer rhy coci, gan ddisgwyl can nifer o bobl yn y cabinet, tra bydde "cytundeb" (nid clymblaid) gyda Plaid Cymru yn golygu mai Llafur a gwenidogion Llafur bydde yn y llywodraeth ond bydde consesiwn sylweddol o ran polisiau er mwyn cael y Blaid i gytuno i'r cytundeb.
Bydde'r cyfle i weithredu polisiau dipyn yn bwysicach na chael aelod ar y cabinet yn fy marn i.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan sanddef » Maw 24 Ebr 2007 9:42 am

Mae'n amlwg bod rhywun yn Llafur wedi cael cipolwg ar yr arolwg ITV nesa (allan Dydd Iau), ac mae'r blaid wedi cachu yn eu trowsus. Dyma nhw yn rhoi "leak" i Vaughan i geisio denu Plaid Cymru at y syniad o gefnogi Llywodraeth Llafur heb ffurfio clymblaid. Maen nhw'n shambles llwyr. "Coalition or bust" bydd ymateb Plaid. Dw'i'n dal i gredu y bydd Plaid yn dal yn yr ail safle, ac hefyd na fydd digon o seddi gan clymblaid Lib-Lab i ffurfio llywodraeth (y gwir reswm pam mae Llafur yn lladd ar y LibDems bellach), felly bydd gan IWJ y dewis o fod naill ai yn Brif Weinidog ar glymblaid enfys ynta bod yn sidekick i Lafur heb hyd yn oed sedd yn y cabinet. Pa ddewis dach chi'n credu y byddai yn ei neud?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Griff-Waunfach » Maw 24 Ebr 2007 10:16 am

Cytuno a ti yn fan hyn Sanddef. Bydd Plaid dal yn yr ail safle, a nhw yw'r unig rhai gall Llafur troi ato nawr. Er credai bod hwn wedi bod ar y bwrdd ers yr "argyfwng cyllid", nes i son amdano ar fy mhlog ar yr adeg hynny!

http://blogwr.blogspot.com/search/label/Llafur

Dyna beth oedd y ddel am wn i, os yw'r sefyllfa'n iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cymro13 » Maw 24 Ebr 2007 11:46 am

Diweddaraf

Plentynaidd neu be!
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

llafur yn fodlon trafod efo Plaid Cymru

Postiogan aled g job » Maw 24 Ebr 2007 12:03 pm

Yn bersonol, dwi'n meddwl y byddai'n gam gwag mawr ar ran PC petae nhw'n dewis achub croen y Blaid Lafur ar ol Mai 3ydd. Mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd Llafur yn colli 5 + o seddau, ac er mai nhw fydd y blaid gyda'r mwya o seddau o hyd, bydd mwy o bobl wedi bwrw pleidlais i'r pleidiau eraill o ran canran yr etholwyr.

Pam ar wyneb y ddaear dylid cynnal breichiau plaid fethiannus sydd:

* Wedi gwneud smonach gydag ad-drefnu ysbytai cymunedol
*Wedi torri eu haddewid am ofal am ddim i'r henoed
* Wedi methu'n llwyr a manteisio ar arian amcan Un i wella economi'r Gorllewin a'r Cymoedd
*Yn gwbl lugoer ynghylch dyfodol y Gymraeg
*Wedi gelyniaethu llawer o bobl y gogledd gyda'u diffyg diddordeb yn fan hyn
* Yn parhau'n rhan annatod o holl dwyll Llafur newydd ynghylch rhyfel Iraq
*Yn credu bod ganddyn nhw ryw hawl ddwyfol i reoli Cymru
* Yng ngofal dyn sydd ag un uchelgais yn unig ar gyfer Cymru: sef bod wrth y llyw ar gyfer Ryder Cup 2009!!!!

Byddai rhai yn dweud na fyddai pledleiswyr Llafur y cymoedd byth yn maddau i PC petae nhw'n mynd i glymblaid efo'r Toris.
Ond oni fyddai o les mawr i bobl y cymoedd gael eu rheoli gan rywun heblaw Llafur bellach, wedi methiannau'r Blaid yn y rhan hon o Gymru dros y ganrif ddiwethaf? Ac onid cychwyn newydd sydd angen ar bobl Cymru ben baladr erbyn hyn?Onid oes teimlad cyffredinol ymhob rhan o'r wlad bod Llafur wedi chwythu'i plwc yn lan? Onid peth da i ddemocratiaeth Gymreig fyddai gweld Llafur yn yr anialwch gwleidyddol am gyfnod- nid yn unig o ran ni yr etholwyr ond hefyd o'u rhan nhw, iddyn nhw gael adnewyddu eu hunain?

Dwi'n rhagweld y Blaid a'r Toris ar tua'r un nifer o seddau ar Fai 4ydd. Ond dwi ddim yn meddwl mai IWJ na Nick Bourne fyddai'n arwain unrhyw glymblaid: mae gen i ryw deimlad y gwelan ni un ai DET neu hyd yn oed Ron Davies yn llenwi'r rol bwysig honno.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Postiogan Mr Gasyth » Maw 24 Ebr 2007 12:27 pm

Mae bellach reit amlwg mai nid strategaeth fwriadol gan Lafur oedd y stori yma, felly mae fy neges uchod bron yn gwbl amherthnasol!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan jac » Maw 24 Ebr 2007 12:42 pm

Difynnaf o flog Vaughan Roderic (http://www.bbc.co.uk/blogs/cymraeg/):

Dismissing claims on BBC Wales that Labour would go into coalition with Plaid Cymru after the Assembly elections on May 3rd, Secretary of State for Wales Peter Hain said:

"This is a trumped up story from BBC Wales.

"As I've made clear in the past, Labour Party members simply wouldn't wear a coalition with Plaid Cymru.

"The fact is that Plaid Cymru and their media sympathisers are desperate to divert attention from the real story which is the backdoor deal Plaid Cymru have done to put the Tories back in charge of Welsh schools and hospitals."


Yr awgrym clir oddiwrth Peter Hain yma ("trumped up story") yw fod Vaughan yn dweud celwydd. Mae e hefyd yn ceisio awgrymu nad yw Vaughan yn di-duedd ("media sympathisers"). Wrth gwrs mae'n e'n sylweddoli nad yw Vaughan mewn sefyllfa i amddiffyn ei hun - gan mae'n siwr fod yna amod yn y trafodaethau y mae wedi ei gael gyda'r aleodau blaenllaw o'r Blaid Lafur nad yw'n datgelu pwy sy wedi dweud be'.

Felly mae ganddom y dewis - credu Peter Hain a'r Blaid Lafur, neu credu'r BBC ...

Dyw hi ddi yn anodd deall pam fod y Blaid Lafur wedi ymosod mor chwyrn ar y stori yma. Mae ei hymgyrch wedi ei selio bron yn gyfangwbl ar yr honiad fod yna bosiblrwydd fod yna "Tory-led coalition" ar y ffordd. Mi roedd datganiad IWJ na fyddai Plaid Cymru yn fodlon fod mewn clymblaid o dan arweinyddiaeth y Toriaid yn ergyd drom eisoes i'r ddadl yma, ond bellach mae'r holl strategaeth ar chwal - ac mae'n nhw'n gwybod hynny. Dydy hel ofnau ddim yn mynd i weithio bellach. Mi fydd angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar ei pholisiau o hyn allan. :o
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron