Hoff gwrw Cymreig

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hoff gwrw Cymreig

Postiogan nicdafis » Gwe 17 Hyd 2003 3:24 pm

Mae is-deitl y seiat yma yn jôc wrth gwrs, ond mae'n wir bod well 'da fi prynu cwrw Cymru os oes dewis 'da fi - nid am resymau cenedlaetholgar, ond achos fy mod i'n lico cefnogi busnesau lleol.

Felly, beth yw'ch hoff gwrw Cymreig?

Fy enwebiad am y cwrw gorau yw Hen Darw Du gan <a href="http://www.tavern-on-tap.com/acatalog/Tavern_On_Tap_Bragdy_Ceredigion_Brewery_1.html">Fragdy Ceredigion</a>. Mae hyn yn real hedbanger o stowt, 6.2% ond mor esmwyth a phen-ôl Gwyneth Paltrow ar ôl iddi gael ei "Brazilian" misol.

Ym, sori.

Mae hwn yn gwrw da.

Mae'n ar gael trwy'r wefan uchod, ond mae'n anhygoel o ddrud fel 'na. Well i ti ddod lawr i Odre Ceredigion lle ti'n gallu ffeindio fe yn sawl siop lleol (yng Ngarej Brynhoffnant dw i'n arfer prynu fe) am c. £2 y botel.

Mae Blodeuwedd, yr un organig, yn neis hefyd.

Maen nhw i gyd yn hyfryd, dweud y gwir, ond Hen Darw Du yw'r unig un sy'n gyrru i fi feddwl am ben-ôl Gwyneth Paltrow.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan Jeni Wine » Gwe 17 Hyd 2003 3:30 pm

nicdafis a ddywedodd:Mae hyn yn real hedbanger o stowt, 6.2% ond mor esmwyth a phen-ôl Gwyneth Paltrow ar ôl iddi gael ei "Brazilian" misol.


:ofn: ych


Nath gwrw caio neud fi'n dwlalilalababab yn sdeddfod rhyw flwyddyn ond fel arall dwi ddim yn rhy hoff o gwrw. Lager i fi botro. Ne jin de. (mmmm....brecon jin - dim hangovers)

Hei be am drio lager 'Maes Pils'? Mae o'n neis iawn iawn iawn...
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan LosinMelysGwyrdd » Gwe 17 Hyd 2003 3:47 pm

Felinfoel Double Dragon - Crazy Mwthwr o ddiod. :lol:
"hhhmmm, I can feel a sexy disturbance in the force".
Rhithffurf defnyddiwr
LosinMelysGwyrdd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 548
Ymunwyd: Mer 24 Medi 2003 3:00 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Gwe 17 Hyd 2003 3:51 pm

Mae'n well gyda fi yfed cwrw lleol. Dwi ddim yn hoff o'r Tetleys ar Worthingtons. Brains (Original ag Esmwyth) dwi'n yfed rhan fwyaf yng Ngaerdydd, ond dwi'n hoff o rai Plassey pan dwi'n mynd i'r Plough yn Llanelwy.

Dwi wedi synnu cymaint o gwrw gwahanol sy'n cael ei fragu yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod adfywiad mawr yn ddiweddar yn y bragdai-meicro. Dyma restr o rai dwi wedi ei gopio o wefan Gwyl Gwrw a Seidr Caerdydd


Brains
Dark 3.5%
Bitter 3.7%
SA 4.2%
Merlins Oak 4.3%
Reverend James 4.5%

Breadalbane Organic
Cwrw Helygmaer 6.0%

Bryncelyn
Buddy Marvellous 4.0%
Envious Peggy's Brew 4.2%
Jealous Peggy's Brew 4.2%
Oh Boy! 4.5%
Rave On 5.0%

Bullmastiff
Welsh Gold 3.8%
Welsh Red 4.8%
Brindle 5.0%
Gwyl Arbennig 5.0%
Son of a Bitch 6.0%
Mogadog 10.0%

Ceredigion
Ysbryd O Goedwig 3.8%
Cwrw Mel 4.2%
Brown Honey 4.3%
Blodeuydd Organic 4.5%
175 Anniversary Ale 4.5%
Yr Hen Darw Du 6.3%

Cwmbran
Double Hop 4.0%
Crow Valley Stout 4.0%
Four Seasons 4.7%

Felinfoel
Bitter 3.3%
Dark 3.3%
Best 3.8%
Double Dragon 4.2%
Export 6.0%

Plassey
Bitter 4.0%
Cwrw Tudno 5.0%

Swansea
Deep Slade Dark 4.0%
Three Cliffs Gold 4.7%
Pwll Du 4.9%
Original Wood 5.2%

Tomos Watkin
Whoosh 3.7%
BB 4.0%
Merlin's Stout 4.2%
Owain Glyndwr 4.2%
OSB 4.5%

Wye Valley
Braveheart 4.0%
Brew 69 5.6%
Butty Bach 4.5%
Alfred Watkins Triumph 4.5%
DG Wholesome Stout 4.6%

Ynys Mon
Seiriol 3.7%
Amnesia
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 17 Hyd 2003 3:59 pm

Ceredigion
Cwrw Mel 4.2%

Wwww, dwi'n cofio hwno flwyddyn dwetha. Ffycin lysh.

Cwrw gorau - Coopers Pale Ale o Ostrelia.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan nicdafis » Gwe 17 Hyd 2003 4:08 pm

Ro'n i'n dysgu'r boi sy'n cynhyrchu'r mêl ar gyfer hwnna, a rhoddodd e bocs o'r cwrw i mi i rannu yn ein barbiciw-diwedd-y-tymor.

Ces i un botel, hyfryd iawn, mynd yn ôl am botel 'te ac maen nhw i gyd wedi diflannu.

Bastads.

Dim ond merched sy ddim yn yfed cwrw dw i'n gwahodd i'r barbiciw nesa.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan garynysmon » Gwe 17 Hyd 2003 4:21 pm

Welsh Smooth, duw a wyr lle mae o'n dod o, ond dyna fyddai'n yfed yn y glob bob amser.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Macsen » Gwe 17 Hyd 2003 6:08 pm

Mi ges i beint o Old Tom's yn y park vaults neithiwr.

Y concoction mwyaf ffiaidd a erchyll dw i erioed wedi ei yfed yn fy mywyd. Bu bron i fi daflu fyny yn fy narlith bore 'ma!

Damo ti Old Tom's!!!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Geraint » Gwe 17 Hyd 2003 6:19 pm

Triwch y cwrw almaeneg yn y Chapter, chi sydd yn Gaerydd, ma nhw'n hyfyrd.

Tra'n sirad am gwrw yno neithiwr, dath rhywun allan a'r lein yma sydd yn lyric o gan tystion dwi'n meddwl:

Wrexham Lager,
mor Gymreig a Wagner

Gafodd ei ddechrau gan glowyr o Dywrian Ewrop yn ol pob son, ac yw lager hynaf Cymru. Unry un yn gwybod mwy?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan LosinMelysGwyrdd » Gwe 17 Hyd 2003 6:59 pm

Faith i chi am yr hen Felinfoel - y cwrw cynta' i gael ei ddodi mewn can i yfed - cal ei anfon i'r milwyr i yfed yn ystod y rhyfel byd cyntaf. :)
"hhhmmm, I can feel a sexy disturbance in the force".
Rhithffurf defnyddiwr
LosinMelysGwyrdd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 548
Ymunwyd: Mer 24 Medi 2003 3:00 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron