Gwersylla!

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sion blewyn coch » Llun 30 Ebr 2007 5:39 pm

Bwlch Tocyn ger Abersoch yn le lyyyyfli i gampio. Fuish in aros mewn campsite o'r enw Bryn Bach (dwin meddwl) odd yn fendigedig achos mi odd na lwybr cerdded i lawr i draeth Porth Ceiriad odd yn swpyrb. :D
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 01 Mai 2007 9:03 am

Ma "Gwersyll Cae Lleci" 2007 wedi ei drefnu (13-15 Gorff os 'di rhywun isio dod!). Ers 3 mlynedd bellach mae na griw amrywiol (gyda'r WWFMDPC a Chymdeithas y Lloerigyddion yn graidd :)) wedi bod yn mynd fyny i ffarm uwch Dolgellau i ddianc rhag swn y byd, yfed a rwdlan rownd y tân a chrwydro llethra'r Rhobell yn y dydd.

Edrych mlaen yn arw at y 4ydd!

Chydig lunia...

Delwedd

Delwedd

Delwedd

*
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Gwyn Eifyd » Gwe 11 Mai 2007 2:12 pm

Mae ‘na lyfr wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar o’r enw Cool Camping Wales. £15 a werth bob ceiniog. 40 o lefydd gwersylla a llwyth o luniau neis sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi – dwi ar bigau’r drain isho mynd allan ac ymweld a rhai o’r llefydd ‘ma rwan (a na- dwi ddim yn gweithio i’r cyhoeddwyr)

Fy hoff lefydd i o’r llyfr yw Caerfai (Ty Ddewi), Gwern Gof Isaf (Tryfan), Mynydd Mawr (Pen llyn), a Mochras aka Shell Island pan di’r lle ddim yn or-brysur efo chavs o Birmingham yn eu kits Lloegr afiach.

Efallai nad yw rhai o’r meysydd gwersylla yn addas ar gyfer plant bach – mae rhai ohonyn nhw’n basic iawn (cae efo tap!). Ond mae nifer ohonyn nhw’n edrych yn lush iawn.

Yr unig peth sy’n gadael y llyfr yma i lawr yw’r typos ymhobman – e.e. mae nhw wedi galw ‘Gwern Gof Isaf’ yn ‘Gwern Gos Isaf’. Sloppy iawn.

Am rywle bellach i ffwrdd mae ‘na hefyd Cool Camping England a Cool Camping Scotland ar gael. Dwi wedi defnyddio’r llyfr Lloegr ambell waith ac yn mynd off i Ogledd Dyfnaint mis nesa …www edrych mlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn Eifyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 124
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 4:27 pm
Lleoliad: ar glawdd offa

Postiogan Dili Minllyn » Llun 04 Meh 2007 3:49 pm

Wedi cael wythnos dda yn Bank Farm, Penrhyn Gŵyr, er gwaetha’r tywydd stormus. Safle mawr yw e gyda phob math o gyfleusterau – tai bach, siop, golchdy, tafarn, pwll nofio – ond braidd yn swnllyd gyda’r nos. Hynod gyfleus ar gyfer traeth tywodlyd Horton, a hefyd ar gyfer Oxwich, lle mae castell eitha difyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan jammyjames60 » Llun 04 Meh 2007 4:48 pm

doni'm yn gwbo' ym mha eda i roid hwn, ond adag Wakestock, lle sa chi'n awgrymu mynd heblaw am y maes 'i hyn? Ma' 'na gwt yn Mynytho 'swn i'n gallu llogi ond ma' gwersylla lot fwy o hwyl 'ndi! Unrhyw cynnigion maeswyr?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Nôl

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai