Mae ‘na lyfr wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar o’r enw
Cool Camping Wales. £15 a werth bob ceiniog. 40 o lefydd gwersylla a llwyth o luniau neis sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi – dwi ar bigau’r drain isho mynd allan ac ymweld a rhai o’r llefydd ‘ma rwan (a na- dwi ddim yn gweithio i’r cyhoeddwyr)
Fy hoff lefydd i o’r llyfr yw Caerfai (Ty Ddewi), Gwern Gof Isaf (Tryfan), Mynydd Mawr (Pen llyn), a Mochras aka Shell Island pan di’r lle ddim yn or-brysur efo chavs o Birmingham yn eu kits Lloegr afiach.
Efallai nad yw rhai o’r meysydd gwersylla yn addas ar gyfer plant bach – mae rhai ohonyn nhw’n basic iawn (cae efo tap!). Ond mae nifer ohonyn nhw’n edrych yn lush iawn.
Yr unig peth sy’n gadael y llyfr yma i lawr yw’r typos ymhobman – e.e. mae nhw wedi galw ‘Gwern Gof Isaf’ yn ‘Gwern Gos Isaf’. Sloppy iawn.
Am rywle bellach i ffwrdd mae ‘na hefyd Cool Camping England a Cool Camping Scotland ar gael. Dwi wedi defnyddio’r llyfr Lloegr ambell waith ac yn mynd off i Ogledd Dyfnaint mis nesa …www edrych mlaen.