Aelodau Cynulliad Newydd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Aelodau Cynulliad Newydd

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 04 Mai 2007 7:35 pm

Dyma restr o'r aelodau newydd. Os chi'n gwybod unrhywbeth am yr aelodau yma, nodwch isod:

Aberconwy: Gareth Jones (Plaid Cymru)
Gorllewin Clwyd: Darren Millar (Ceidwadwyr)
Wrecsam: Lesley Griffiths (Llafur)
Preseli-Penfro: Paul Davies (Ceidwadwyr)
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro: Angela Burns (Ceidwadwyr)
Sir Fynwy: Nick Ramsay (Ceidwadwyr)

Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru:
Alun Davies (Llafur)
Joyce Watson (Llafur)
Nerys Evans (Plaid)

Rhanbarth Gorllewin De Cymru:
Bethan Jenkins (Plaid Cymru)

Rhanbarth Canol De Cymru:
Andrew R Davies (Ceidwadwyr)
Christopher Franks (Plaid Cymru)

Dwyrain De Cymru:
Mohammad Asghar (Plaid Cymru)

Felly 13 aelod newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

aelodau newydd

Postiogan aled g job » Gwe 04 Mai 2007 8:54 pm

Un pwynt bach arall- dwi'n meddwl bod 24 aelod o'r Senedd newydd yn gallu siarad Cymraeg: sef 40%. Beth am ddefnyddio'r ffigwr hwnnw fel nod i Gymru gyfan erbyn dyweder 2020? Be dach chi'n feddwl;?
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Postiogan Clebryn » Gwe 04 Mai 2007 10:57 pm

Aberconwy: Gareth Jones (Plaid Cymru) Bydd Gareth at best yn one term aelod o'r cynulliad ac ar y maenciau cefn. Shwd siom fod DJE wedi colli allan fama
Gorllewin Clwyd: Darren Millar (Ceidwadwyr) Y peth dwethaf i ni am weld ydy twf gwleidyddiaeth adain dde/ffwndamentalaidd cristnogol ala George Bush yma yng Nghymru. Mae Millar yn ymgorfforiad o'r traddodiad yma. Ar y llaw arall fe godais fy ngwydr i ddathlu cwymp Alun Pugh!
Wrecsam: Lesley Griffiths (Llafur) Marek fawr o golled
Preseli-Penfro: Paul Davies (Ceidwadwyr) Datganolwr Brwd. Breath of ffresh air ar feinciau y Toriaid. Trueni y collwyd Glyn Davies serch ny!
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro: Angela Burns (Ceidwadwyr) llais gref dros y gymuned wledig
Sir Fynwy: Nick Ramsay (Ceidwadwyr) Bitch Nick Bourne. Yes man dwi'n ofni!

Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru:
Alun Davies (Llafur) = Wanker! Be arall sydd i ddweud?
Joyce Watson (Llafur) = Pwy?
Nerys Evans (Plaid) = out of her depth! Mae'n warthus o beth fod hon ar gyfil y lle!

Rhanbarth Gorllewin De Cymru:
Bethan Jenkins (Plaid Cymru) = cyfaill agos felly mi fydde nin naturiol yn dadlau ei bod hi'n llwyr haeddiannol o'i lle yn y Cynulliad! Mae ganddi gymaint o egni a brwdfrydedd i gynnig. Ar y llaw arall mae'n gywilyddus fod y Blaid wedi mabwysiadu sy'n clustnodi y safle 1af ar y rhestr i ferched ar draul ymgeiswyr mwy profiadol megis Wigley
Rhanbarth Canol De Cymru:
Andrew R Davies (Ceidwadwyr) = Ni ddylai fod yno mewn gwirionedd. Siom enfawr fod y Toriaid wedi methu a trechu jane hutt yn y Fro
Christopher Franks (Plaid Cymru) = Cynghorydd Sir diwyd yn y Fro, ond fawr o garisma

Dwyrain De Cymru:
Mohammad Asghar (Plaid Cymru) = Wedi'i siomi gan y lol nawddoglyd yma ar y newyddion wrth iddynt gyferio ato fel y "token muslim" yn y Cynulliad. Mae ganddo ben busnes a phrofiad helaeth i rannu yn y Cynulliad. Agwedd iach at y Gymraeg ac yntau wedi dysgu'r iaith
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 04 Mai 2007 11:05 pm

Clebryn a ddywedodd:Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro: Angela Burns (Ceidwadwyr) llais gref dros y gymuned wledig


Oes gen ti fwy o wybodaeth amdani? Ble mae'n byw? Beth yw ei barn ar y Gymraeg? Cefnogi datganoli? Beth oedd hi'n gwneud cyn bod yn AC?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 04 Mai 2007 11:08 pm

Clebryn a ddywedodd:Nerys Evans (Plaid) = out of her depth! Mae'n warthus o beth fod hon ar gyfil y lle!


Ar ba sail wyt ti'n gwneud y fath ymosodiad? Dwi'n siwr fyse ti'n ei chlodfori petase hi'n Dori! :rolio:

Bues i'n ymgyrchu gyda hi am ddiwrnod yma yn etholaeth Llanelli, ac roedd hi'n arbennig o dda - yn yr un mould a Elin Jones.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Clebryn » Gwe 04 Mai 2007 11:11 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Clebryn a ddywedodd:Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro: Angela Burns (Ceidwadwyr) llais gref dros y gymuned wledig


Oes gen ti fwy o wybodaeth amdani? Ble mae'n byw? Beth yw ei barn ar y Gymraeg? Cefnogi datganoli? Beth oedd hi'n gwneud cyn bod yn AC?


Mae ganddi hi a'i gwr gysylltiadau clos gyda'r Countryside Alliance a'r mudiad hela os ydyw hynny'n helpu

Fe dreuliodd llawer o amser ym Mhreseli tra'n blentyn, ac yna ar ei gwyliau yno gyda'i gwr. Fe benderfynodd hi ai gwr i symud yno yn llawn amser yn gymharol ddiweddar.

Mae ganddi brofiad busnes helaeth hefyd

Dynes ddwad yw hi heb ddim gair o Gymraeg mae arnai ofn Hedd
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 04 Mai 2007 11:13 pm

Clebryn a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Clebryn a ddywedodd:Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro: Angela Burns (Ceidwadwyr) llais gref dros y gymuned wledig


Oes gen ti fwy o wybodaeth amdani? Ble mae'n byw? Beth yw ei barn ar y Gymraeg? Cefnogi datganoli? Beth oedd hi'n gwneud cyn bod yn AC?


Mae ganddi hi a'i gwr gysylltiadau clos gyda'r Countryside Alliance a'r mudiad hela os ydyw hynny'n helpu

Fe dreuliodd llawer o amser ym Mhreseli tra'n blentyn, ac yna ar ei gwyliau yno gyda'i gwr. Fe benderfynodd hi ai gwr i symud yno yn llawn amser yn gymharol ddiweddar.

Mae ganddi brofiad busnes helaeth hefyd

Dynes ddwad yw hi heb ddim gair o Gymraeg mae arnai ofn Hedd


Felly - fel cenedlaetholwr - ti'n credu ei bod hi'n well ymgeisydd na John Dixon? :rolio: Mae'n swnio fel hunllef llwyr i mi! Nid oedd y Ceidwadwyr Cymreig lleol hyd yn oed yn ei chefnogi.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Clebryn » Gwe 04 Mai 2007 11:16 pm

Yr unig hunllef Hedd yw'r ffaith syml fod yna aelodau blaenllaw o grwp PC yn y Cynulliad yn arddel eu credodau sosialaidd gydag angerdd, a hynny ar draul eu syniadau cenedlaetholgar!

Fel rwyd eisoes wedi nodi mewn edefyn arall, mae Leanne Wood yn ystyried ei hunan yn Sosialydd gyntaf, a chenedlaetholwraig yn ail.

Mae hynnny yn ddatguddiad torcalonnus yn erbyn Plaid Cymru!
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 04 Mai 2007 11:17 pm

Felly - fel cenedlaetholwr - ti'n credu ei bod hi'n well ymgeisydd na John Dixon?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 04 Mai 2007 11:19 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Clebryn a ddywedodd:Nerys Evans (Plaid) = out of her depth! Mae'n warthus o beth fod hon ar gyfil y lle!


Ar ba sail wyt ti'n gwneud y fath ymosodiad? Dwi'n siwr fyse ti'n ei chlodfori petase hi'n Dori! :rolio:

Bues i'n ymgyrchu gyda hi am ddiwrnod yma yn etholaeth Llanelli, ac roedd hi'n arbennig o dda - yn yr un mould a Elin Jones.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron