Dylan a ddywedodd:mae sylwadau honedig Millar ar hoywon a chreadaeth am ei flagio fo am y bedair blynedd nesa dw i'n amau
pam fod gymaint o anoddefgarwch tuag at ddaliadau Cristnogol y gwr yma?
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Dylan a ddywedodd:mae sylwadau honedig Millar ar hoywon a chreadaeth am ei flagio fo am y bedair blynedd nesa dw i'n amau
Dylan a ddywedodd:wyddwn i ddim mo hynny. Chwarae teg os yn wir.
ond mae creadaeth yn rhywbeth dw i'n fwy chwyrn yn ei erbyn nag sy'n iach. Os oes hyd yn oed awgrym ei fod o am drio pwsho'r peth yna bydd fo a fi yn elynion pennaf
rooney a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:mae sylwadau honedig Millar ar hoywon a chreadaeth am ei flagio fo am y bedair blynedd nesa dw i'n amau
pam fod gymaint o anoddefgarwch tuag at ddaliadau Cristnogol y gwr yma?
Cwlcymro a ddywedodd:Dwi'n cytuno'n llwyr a Dylan. Does dim lle i greadaeth yng ngwersi gwyddoniaeth. Gwyddoiaeth ydy ffeithiau, hypothesis ag ymchwil. Crefydd ydi credodau a "blind faith" mewn hen lyfrau.
Nonsens llwyr. Mae byd o wahaniaeth rhwng dysgu theoriau a ffeithiau. Theori yw esblygu, a felna dylid ei ddysgu. Nid yw wedi ei brofi o gwbl ac mae llawer iawn o wrthwynebiadau sylfaenol i'r theori. Os am ddysgu theori sydd heb ei brofi yna dylid rhoi darlun cyflawn i'r disgyblion am y dadleuon dros ac yn ei erbyn. Fel arall, chi yn brainwashio plant ac yn honni fod pethau'n ffeithiau pan dyw nhw ddim.
rooney a ddywedodd:ac felly nid yw barn Darren Millar mor hurt ac mae eithafwyr maes-e yn hoffi meddwl, mae'r theori esgblygu yn llawn gwallau ac objections mawr o bob cyfeiriad- gwyddonol, philosophical, crefyddol, hanesyddol... felly pam dysgu rhywbeth fel hyn fel ffaith pan nad yw, a gwrthod cyflwyno'r gwrthwynebiadau a theoriau eraill?
Dylan a ddywedodd:o ran swmp tystiolaeth, esblygiad ydi'r cysyniad mwya cadarn yn hanes gwyddoniaeth gyfan. Mewn difri. Does gen ti ddim syniad o gwbl am be ti'n mwydro. Wir i ti.
dy broblem fwya ydi nad oes gen ti unrhyw syniad sut mae gwyddoniaeth fel proses yn gweithio a datblygu. Mae "gwyddoniaeth", fel pwnc academaidd, wastad yn cael ei ddysgu fel y modd y deellir pethau ar y funud. Ac ar y funud, does dim theoriau amgen lle mae esblygiad o dan sylw
rooney a ddywedodd: cysyniad mwya cadarn yn hanes gwyddoniaeth gyfan!!!!! blydi hel, yn amlwg does gen ti ddim syniad o gwbl beth ti'n siarad am ac mae pa bynnag "addysg" ti wedi ei gael wedi dy adael lawr yn syfrdanol
dwed, wyt ti'n gwrthwynebu felly dysgu yr holl anhawsterau ac objections i'r theori esgblygu o wyddoniaeth ac o faesydd eraill? PAM? Oherwydd ti eisiau brainwashio plant hefo dy gred fod dy gyndeidiau yn fwnciod?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai